Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch i chi, Weinidog. Efallai fod angen mwy o hyblygrwydd yn y gronfa ddewisol, oherwydd mae'r bylchau hynny yno o hyd.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cynnal adolygiad o ardrethi domestig a busnes a threth stamp. Maent yn awgrymu nad yw'r system bresennol ar gyfer casglu ardrethi busnes yn addas i'r diben mwyach ac y dylid ei dileu a chael system decach yn ei lle, a fyddai wedyn yn denu mwy o fusnesau i ganol ein trefi ac yn annog y rhai sydd yno eisoes i aros. A yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ffyrdd eraill o gasglu?