Y Diwydiant Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:05, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, David. Rydym wedi cyflawni ystod o gamau gweithredu i ddiogelu a chefnogi'r diwydiant tai ar draws pob math o ddeiliadaeth yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19. Mae ein camau gweithredu yn cynnwys darparu cymorth ariannol, buddsoddiad parhaus a chydweithio i ddatblygu canllawiau ar gyfer gweithio'n ddiogel ar draws y diwydiant cyfan.