Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr am y sector busnesau bach a chanolig, sy'n dibynnu ar y math o waith gwella tai sy'n gallu cael ei ohirio'n hawdd yn aml, yn enwedig mewn cyfnod o ansefydlogrwydd mawr. Felly, rwy'n meddwl tybed beth rydych yn ei wneud yn nhermau darparu cymorth. A hefyd sut y mae cynlluniau penodol, fel cynllun Hunanadeiladu Cymru, sy'n ceisio annog pobl i adeiladu eu cartrefi eu hunain, yn aml gyda busnesau bach a chanolig—mewn gwirionedd, bron yn gyfan gwbl—i sicrhau bod cynlluniau fel hynny, a gyhoeddwyd, yn anffodus, ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn mynd rhagddynt ac y byddant yn gweithio'n dda yn y dyfodol?