Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 3 Chwefror 2021.
Fy ffocws yw sicrhau bod pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu talu eu rhent oherwydd y pandemig yn gallu dod o hyd i'r cymorth a'r cyngor y maent eu hangen. Rydym wedi gweithio gyda'r sector tai cymdeithasol i wneud i hyn ddigwydd, ac rydym wedi sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i denantiaid yn y sector preifat ledled Cymru.