Tai Fforddiadwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 3:03, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Lywydd, a gaf fi ddatgan buddiant fel cynghorydd sir yn sir Fynwy? Rwyf newydd gael gwybod.

Weinidog, mae'r pandemig coronafeirws wedi arafu proses yr awdurdodau lleol i adnewyddu'r cynllun datblygu lleol. Bydd hyn yn effeithio ar y gwaith o adeiladu tai fforddiadwy hyd nes y cytunir ar gynllun newydd. A hyd yn oed wedyn, gallai gymryd tua dwy flynedd hyd nes y daw tai ar gael. Mae angen iddynt allu adeiladu tai er nad oes cynllun ar waith. Mae eich Llywodraeth wedi gosod targed o 50-50 o dai fforddiadwy i dai masnachol, targed y mae cynghorau'n ei dderbyn ond yn cydnabod na fydd yn hawdd ei gyflawni. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ganiatáu pwerau brys i awdurdodau lleol ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen ar draws Dwyrain De Cymru?