Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, Lynne. Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn rhan hanfodol o ymateb Cymru i effeithiau'r pandemig ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i wasanaethau diogelu'r cyhoedd mewn awdurdodau lleol, yn arbennig, am ein cynorthwyo yn ystod y pandemig hwn. Hebddynt, yn sicr ni fyddem wedi cael y lefel o brofi, olrhain a diogelu, er enghraifft, a gawsom yng Nghymru, mewn cyferbyniad llwyr â'r sefyllfa ar draws y ffin. Darparwyd arian ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol i gryfhau'r capasiti hwnnw.