2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn meithrin cydnerthedd o fewn gwasanaethau diogelu'r cyhoedd ym maes llywodraeth leol? OQ56235
Diolch, Lynne. Fel y gwyddoch, mae gwasanaethau diogelu'r cyhoedd wedi bod yn rhan hanfodol o ymateb Cymru i effeithiau'r pandemig ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar i wasanaethau diogelu'r cyhoedd mewn awdurdodau lleol, yn arbennig, am ein cynorthwyo yn ystod y pandemig hwn. Hebddynt, yn sicr ni fyddem wedi cael y lefel o brofi, olrhain a diogelu, er enghraifft, a gawsom yng Nghymru, mewn cyferbyniad llwyr â'r sefyllfa ar draws y ffin. Darparwyd arian ychwanegol i awdurdodau lleol drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol i gryfhau'r capasiti hwnnw.
Diolch, Weinidog, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch o galon i'r tîm diogelu'r cyhoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd wedi gweithio'n ddiflino mewn amgylchiadau sy'n newid yn gyflym i helpu i gadw pobl yn Nhorfaen yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae'r pandemig yn bendant wedi dangos yn fwy nag erioed o'r blaen, pa mor hanfodol yw rôl gwasanaethau diogelu iechyd yng Nghymru, ac rwy'n llwyr groesawu argymhelliad y prif swyddog meddygol y dylid cynnal adolygiad o wasanaethau diogelu iechyd a sicrhau mwy o gyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd felly, wrth symud ymlaen, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, i weithredu argymhelliad y prif swyddog meddygol ac i sicrhau bod gennym y system gadarn ac integredig o ddiogelu iechyd sy'n angenrheidiol i ymateb i fygythiadau iechyd yn y dyfodol?
Diolch, Lynne. Rwyf innau hefyd, fel y dywedais, yn adleisio eich cefnogaeth a'ch diolch i'r tîm diogelu'r cyhoedd yn Nhorfaen, a ledled Cymru yn wir, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thimau trwyddedu hefyd yn arwain yr ymateb i'r pandemig mewn awdurdodau lleol. Rydym yn falch iawn o fod wedi darparu £2.5 miliwn drwy'r gronfa galedi yn benodol ar gyfer helpu awdurdodau lleol i feithrin capasiti'r timau hynny. Arferid meddwl mai timau o staff cefn swyddfa oedd y rhain nad oedd fawr o angen amdanynt o bosibl, ac mae'n dangos y ffolineb o fethu deall natur integredig llywodraeth leol. Pan fyddwch yn wynebu argyfwng fel hwn, mae'n ymddangos yn sydyn iawn mai'r staff cefn swyddfa hyn yw'r rhai sy'n ein cadw ni i gyd yn fyw, felly mae'r ffaith bod y wers hon wedi cael ei dysgu yn rhywbeth i'w groesawu.
Fel y dywedasom wrth osod y gyllideb ddrafft, rydym yn cydnabod effaith barhaus y pandemig, ac o ystyried yr ansicrwydd, rydym yn ystyried cyllid sy'n benodol i COVID fel rhan o'r gyllideb derfynol i sicrhau y gellir diogelu'r staff hynny yn eu gwaith a sicrhau y gellir darparu'r staff ychwanegol hynny yn y dyfodol hefyd. Wrth gwrs, rydym yn hapus i weithio gyda'r prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn deall yr agweddau cydnerthedd yn hynny, yr integreiddio rhwng iechyd y cyhoedd mewn awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y blaen. Mae hon yn system integredig, ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy clir nag y bu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, rydym yn gwbl hapus i weithio ochr yn ochr â'r prif swyddog meddygol i sicrhau bod gennym y gwasanaeth mwyaf cadarn—gwasanaeth deniadol hefyd, mewn gwirionedd—i bobl ymuno ag ef yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion yna.