Llety Brys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:59, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig, gyda dros 5,000 o bobl yn cael cymorth i ddod o hyd i lety argyfwng ers mis Mawrth 2020. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer ein dull cynhwysol sy'n seiliedig ar anghenion. Ar hyn o bryd, mae £1.6 miliwn y mis ar gyfartaledd yn cael ei hawlio ar gyfer hyn.