2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch defnyddio llety brys i bobl ddigartref yn ystod y pandemig? OQ56229
Diolch, Huw. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig, gyda dros 5,000 o bobl yn cael cymorth i ddod o hyd i lety argyfwng ers mis Mawrth 2020. Rydym wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer ein dull cynhwysol sy'n seiliedig ar anghenion. Ar hyn o bryd, mae £1.6 miliwn y mis ar gyfartaledd yn cael ei hawlio ar gyfer hyn.
Weinidog, diolch yn fawr am yr ymateb hwnnw, a diolch i chi hefyd am ymgysylltu â mi ynghylch ymholiadau gan fy awdurdodau lleol, y mae rhai ohonynt yn draddodiadol wedi defnyddio'r hyn rydym yn ei adnabod fel darpariaeth lloches nos mewn argyfwng, a oedd, ar un adeg, yn ffordd briodol ymlaen. Ond mewn gwirionedd, pan fyddwch yn ymdrin â phandemig, heb sôn am ddull sy'n ei gwneud yn ofynnol inni helpu pobl allan o ddigartrefedd yn ogystal â lapio gwasanaethau a chymorth o'u cwmpas, mae'n debyg nad dyna'r ffordd orau ymlaen. Ond a gaf fi ofyn i chi felly, Weinidog, pa lwyddiant y mae'r dull rydych wedi'i fabwysiadu yn awr wedi'i gael, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig, pan fo rhai awdurdodau lleol, rwy'n credu, wedi wynebu heriau mawr gydag adnoddau a gorfod ymateb i bobl mewn argyfwng ar y stryd heb lawer o adnoddau i ddatrys y broblem?
Diolch, Huw. Fel y gwyddoch o'r ohebiaeth a gawsom, rydym wedi gwneud ein safbwynt yn eithriadol o glir i awdurdodau lleol, y dylai pobl sy'n cysgu ar y stryd gael llety priodol ar frys ac yn hollbwysig, y dylent gael eu cartrefu gyda'r cymorth cofleidiol sydd ei angen arnynt yn ddybryd er mwyn gallu aros yn y llety hwnnw.
Rydym yn falch iawn o'r hyn y mae Cymru wedi'i gyflawni yn ystod y pandemig o ran cael pobl oddi ar y strydoedd, ac er bod rhai pobl wedi llithro'n ôl ar y strydoedd—oddeutu 100 o bobl; mae un ohonynt yn ormod—ond serch hynny, o gofio ein bod wedi cartrefu dros 5,000 o bobl, mae hwnnw'n gyflawniad eithaf da. Ac wrth gwrs, yn wahanol i'r sefyllfa ar draws y ffin, rydym yn parhau i gynnig llety i bawb sydd ei angen drwy'r pandemig.
Mae newid diwylliant mawr yma o system a gynlluniwyd i ddogni llety a throi rhai pobl i ffwrdd i system sydd wedi'i chynllunio i gynorthwyo pawb a darganfod beth yw eu hanghenion, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar drawma, ac i fodloni'r anghenion hynny. Rydym wedi bod yn falch iawn o weithio'n galed iawn gyda gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth camddefnyddio sylweddau, er enghraifft, ac mae fy nghyd-Aelod, Eluned Morgan, wedi bod yn gweithio'n galed iawn yn ddiweddar i ddod â'r pethau hynny at ei gilydd, fel rydym wedi'i wneud yr holl ffordd drwodd.
Ond mae cael awdurdodau lleol i ddeall y gallant wario eu grant cymorth tai ar gefnogi pobl sy'n dod i mewn i lety argyfwng wedi bod yn newid diwylliant mawr. Felly, mae fy swyddogion wedi dweud yn gyson, 'Nid ydym yn cefnogi'r defnydd o lochesau nos', mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod mannau cymunedol yn peri risg uchel o drosglwyddo COVID-19, heb sôn am unrhyw beth arall. Ond hefyd, mae llochesau nos yn ffordd o gadw pobl ar y strydoedd, a holl bwrpas hyn yw cael pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety yn unol â'n model tai yn gyntaf. Ac mae honno'n sgwrs rydym wedi'i chael gyda llawer o awdurdodau ledled Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny.