– Senedd Cymru am 3:15 pm ar 3 Chwefror 2021.
Felly, y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan David Rees.
Diolch, Lywydd. Yfory, 4 Chwefror, yw Diwrnod Canser y Byd. Ar y diwrnod hwn, byddwn yn atgoffa ein hunain o'r effaith y mae canser yn ei chael ar bobl a'r egni sy'n bodoli mewn cymunedau ym mhob rhan o'r byd i wneud cynnydd yn y frwydr yn erbyn canser. Eleni, gallwn hefyd ystyried sut y mae'r frwydr yn bodoli ochr yn ochr â heriau pandemig byd-eang, ond mae'n rhaid inni gofio nad yw'r frwydr byth yn dod i ben oherwydd, fel coronafeirws, nid yw canser yn diflannu. Mae'n parhau i effeithio ar bobl, ac mae angen inni sicrhau bod y frwydr yn ei erbyn nid yn unig yn parhau ond yn cryfhau.
Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar y neges, 'Rwyf fi ac fe wnaf', ac mae'n ein hannog i ymrwymo'n bersonol i leihau effaith canser. Nawr, rwy'n siŵr, fel pob Aelod, y byddaf fi, fel yr Aelod dros Aberafan a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ganser, yn parhau i gymryd camau cadarnhaol personol a byddaf bob amser yn galw am flaenoriaethu gwasanaethau diagnostig canser yn ystod y pandemig hwn. Nid yw'r angen brys am ddiagnosis cynnar wedi newid. Gwyddom fod y cynnydd cyflym mewn heintiau COVID-19 a'r derbyniadau i ysbytai wedi rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau, ac rwy'n diolch i'n staff sy'n gweithio'n galed i sicrhau y gall diagnosis a thriniaethau canser barhau'n ddiogel.
Mae trefnwyr Diwrnod Canser y Byd yn gofyn i Lywodraethau weithredu drwy gael cynlluniau rheoli canser cenedlaethol. Rwy'n falch ein bod ni yma yng Nghymru yn elwa o'r llwybr canser sengl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, ond oherwydd y pandemig, mae'n debygol y gallai 3,500 o bobl fod wedi methu diagnosis o ganser yng Nghymru erbyn hyn. Mae llawer i'w wneud i ganfod pob diagnosis a gollwyd. Ni allwn adael i'r feirws hwn ddileu'r angen i fynychu ein meddygfeydd, boed hynny ar gyfer peswch, lwmp neu unrhyw symptom arall sy'n peri pryder. Felly, heddiw, gadewch i ni i gyd ailymrwymo i barhau â'r frwydr yn erbyn canser ac annog pobl i ofyn am gymorth os ydynt yn amau bod rhywbeth o'i le.
Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn longyfarch Jonny Clayton o Bontyberem ar ennill ei deitl dartiau unigol cyntaf ar y teledu. Roedd y Cymro 46 oed ar ei hôl hi o 5-3 i ddechrau ond fe frwydrodd yn ôl i guro Mervyn King o 11-8 yn ystod rownd derfynol Meistri'r PDC yn Milton Keynes yr wythnos diwethaf. Mae'n ystyried rhoi'r gorau i weithio fel plastrwr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin i ganolbwyntio ar ei ddartiau. Yn ddiweddar, disgrifiodd Jonny Clayton ddartiau fel ei 'hobi'.
Nid wyf yn gwybod a ydw i'n mynd i roi'r gorau i weithio, meddai ar ôl ei fuddugoliaeth enwog,
Caf weld. Nid wyf yn gwybod.
Dywedodd y byddai'n trafod y posibilrwydd o barhau i ganolbwyntio ar ddartiau'n llawnamser gyda'i wraig Elen a'i blant ar ôl iddo gyrraedd adref, ar ôl ennill y wobr werthfawr honno yn rownd derfynol Meistri'r PDC.
Ym mis Tachwedd, enillodd ef a'i gyd-Gymro, Gerwyn Price, Gwpan Dartiau'r Byd. Mae Jonny yn gobeithio y bydd llwyddiant Cymru yn parhau am y pum mlynedd neu 10 mlynedd nesaf. Ychwanegodd:
Mae'n deimlad gwych bod yn Gymro ar yr adeg hon yn y byd dartiau.
Mae cymuned Pontyberem yn falch iawn o'r dinesydd hwn o gwm Gwendraeth. Mae ei gyflawniad syfrdanol wedi ysbrydoli arweinydd y cyngor Emlyn Dole a'r bardd Aneirin Karadog i ysgrifennu limrigau a cherddi i ddathlu ei fuddugoliaeth. Nid wyf am adrodd limrig Emlyn i'r Senedd, ond mae Emlyn wedi dweud cymaint o anrhydedd yw cael pencampwr byd ar gyflogres y cyngor. Fis Tachwedd diwethaf dywedodd:
Rydym yn hynod falch o Jonny a'r cyfan y mae wedi'i gyflawni. Am gyflawniad gwych oedd iddo godi'r tlws dros ei wlad yn y gamp y mae'n ei charu. Mae Jonny yn aelod gwerthfawr o dîm cyngor Sir Gaerfyrddin, ac mae'r un mor dalentog yn plastro ag y mae yn taflu dartiau.
Ychwanegodd Emlyn:
Fel gydag unrhyw aelod o staff sy'n cynrychioli eu gwlad mewn chwaraeon elît, rydym wedi rhoi ein cefnogaeth lawn i Jonny i sicrhau y gall weithio ei swydd bob dydd yn ogystal â chael amser i hyfforddi a chystadlu.
Rwy'n tybio y bydd Emlyn yn ystyried yn awr, ar ôl y fuddugoliaeth ddiweddaraf hon, tybed a allai'r cyngor gynnig cyfnod sabothol i Jonny allu dilyn ei yrfa ddartiau'n llawnamser.
Fel yr ysgrifennodd y bardd Aneirin Karadog:
'Drwy’r holl wlad fe lygadai’r llwyth un dart; / aeth ar daith mor esmwyth / o dy blaid i’r dwbwl wyth, / o’i dowlu dros dy dylwyth.'
Gydag ymddiheuriadau i Aneirin am yr ynganu ofnadwy. Jonny, mae Pontyberem yn falch iawn ohonoch, a Chymru hefyd. Da iawn.
Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged i Capten Syr Tom Moore, a aned ar 30 Ebrill 1920 yng Ngorllewin Swydd Efrog. Roedd ei fam a'i dad yn rhedeg cwmni adeiladu llwyddiannus. Roedd ei dad yn fyddar a bu i'r ymdeimlad o unigrwydd a deimlai ei dad yn sgil y cyflwr hwn aros gyda Syr Tom a dod yn un o'r achosion a hyrwyddodd drwy gydol ei oes. Priododd ei ail wraig Pamela ym 1968 a chawsant ddwy ferch, Lucy a Hannah. Yn anffodus, treuliodd Pamela 10 mlynedd olaf ei hoes yn brwydro yn erbyn effeithiau dementia. Unwaith eto, fe wnaeth y frwydr hon atgyfnerthu cred Syr Tom yn yr angen i ymgyrchu i helpu pobl i oresgyn effeithiau unigrwydd. Bu Capten Syr Tom ar wasanaeth gweithredol yn y dwyrain pell, fel capten yng nghatrawd Dug Efrog yn ystod yr ail ryfel byd, ac fel y gwelsom , gwisgai ei fedalau gwasanaeth gyda chymaint o falchder ac angerdd. Fodd bynnag, nid oedd yn rhamantu ynglŷn ag effeithiau ofnadwy rhyfel ar fywydau pobl a dywedodd am ei brofiad, 'Nid oeddwn yn arwr; roeddwn yn lwcus, dyna'i gyd. Rwy'n gobeithio na fydd rhagor o ryfeloedd; maent yn bethau di-fudd.'
Mae 12 mis olaf ei fywyd wedi bod yn wirioneddol rhyfeddol—gwella o gwymp a barodd iddo dorri asen, cael twll yn ei ysgyfaint a chwalu ei glun i godi bron i £40 miliwn ar gyfer elusennau amrywiol a dod yn arwr a thrysor cenedlaethol ar adeg o argyfwng cenedlaethol. Er fy mod yn siŵr fod sawl un wedi colli deigryn ar ôl clywed am farwolaeth Syr Tom, nid oedd yn ofni marwolaeth, ac rwyf am gloi gyda'i fyfyrdodau:
Ni all rhai pobl oddef y syniad o farwolaeth, ond mae'n rhoi nerth i mi... os mai yfory yw fy niwrnod olaf, os yw pawb a gerais yn aros amdanaf, bydd yr yfory hwnnw'n ddiwrnod da hefyd.
Diolch, syr. Roeddech yn fab, yn frawd, yn filwr, yn ŵr, yn dad ac yn dad-cu rhyfeddol ac yn ddyn da hyd fêr eich esgyrn.