Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 3 Chwefror 2021.
Wrth i ni drafod Brexit, wel, yn sicr mae effaith Brexit wedi bod yn wael iawn ar y sector, a diolch yn fawr iawn i'r cyngor celfyddydau a Chyngor Caerdydd am ymateb i'n hymchwiliad ni. Yn sicr, mae'r cyngor celfyddydau yn gywir i nodi nad yw cytundeb masnach Brexit yn caniatáu i artistiaid symud rhwng gwledydd heb rwystrau, a bydd hwn yn gwneud teithio yn Ewrop yn ddrutach ac yn fwy cymhleth o lawer. Cyhoeddwyd y cytundeb ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, a bydd hyn yn effeithio ar nifer ac ystod yr artistiaid o Ewrop sy’n gallu perfformio yma, a’r artistiaid o Gymru sy’n gallu teithio yn Ewrop.
O ran rhelyw'r adroddiad, mae'n bwysig dydyn ni ddim yn anghofio bod yna argymhellion sy’n mynd yn bellach na'r pandemig pan wnaethon ni edrych ar y mater yma yn wreiddiol. Felly, gwnaethon ni gynnig, er enghraifft, cefnogaeth i leoliadau ar lawr gwlad, gan gynnwys ailfeddwl rheolau trwyddedu; cefnogaeth i bobl, cefnogaeth i ddatblygu talent ac unigolion; hyrwyddo cerddoriaeth o Gymru yn benodol; a hefyd strategaeth ar gyfer llwyddiant. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol bod y sector cerddoriaeth yn helpu ein heconomi i fyw yn iach, ac yn cefnogi busnesau lleol, ond hefyd dŷn ni'n cydnabod y ffaith bod angen strategaeth drosfwaol sy'n gallu ymgymryd â'r ffaith bod cerddoriaeth yn fwy na dim ond yr economi, ond mae'n datblygu creadigrwydd ac mae'n caniatáu i ni ddod at ein gilydd fel cymdeithas i gydweithredu. Yn sicr, mae angen celf arnom ni yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau clo yma. Mae'n rhoi siawns i ni gael llonydd mewn amseroedd anodd. Mae'n rhoi siawns i ni wrando ar bodlediadau gwahanol neu ar raglenni radio fyddem ni ddim efallai wedi cael cyfle i wrando arnyn nhw os nad oeddem ni mewn sefyllfa o gyfnod clo. Felly, mae'n rhaid inni feddwl am bwysigrwydd hynny, o shanties môr ar TikTok i gôr y gwasanaeth iechyd yn dod at ei gilydd—sut mae cerddoriaeth wedi gallu uno'r genedl yn ystod y cyfnod anodd, anodd iawn yma.
I orffen, hoffwn i ddweud ei bod yn bwysig dweud pa mor ddiwyd mae'r pwyllgor wedi gweithio yn y maes yma ar yr ymchwiliad penodol yma. Dŷn ni'n falch bod y Llywodraeth wedi gwrando, hyd yn oed yn ystod prosesau'r pwyllgor—er enghraifft, dŷn ni wedi argymell bod project Forté yn cael ei estyn i bob ardal o Gymru, a dŷch chi wedi gwrando a dŷch chi'n mynd i gonsidro gwneud hynny, yn hytrach na ei fod e jest yn rhan o ardal de Cymru. Hefyd, roeddem ni wedi argymell yn yr adroddiad penodol yma eich bod chi'n cael cronfa gyllid ar gyfer diogelu lleoliadau, ac wrth gwrs dŷch chi wedi gwneud hynny, a dŷn ni'n falch iawn eich bod chi wedi cymryd y fantol a gwneud hynny.
Felly, mae'n bwysig cydnabod pa mor effeithiol mae pwyllgorau yn gallu bod. Mae lot o artistiaid wedi diolch i ni am y gwaith yn y sector. Dŷn ni wedi cael grŵp arbenigol i'n helpu ni sicrhau bod yr argymhellion yn gallu bod mor gryf â phosib. Ond dwi'n edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau eraill ac at gael trafodaeth ar rywbeth sydd mor bwysig i'n bywydau ni oll.