6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:57, 3 Chwefror 2021

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Ar lefel bersonol, dwi wedi cael boddhad o ddysgu mwy am y maes gofal diwedd oes yn y blynyddoedd diwethaf drwy weithio'n agos efo Marie Curie a Hospice UK yn benodol, ond digon prin, mewn difri, ydy'r cyfle inni gael neilltuo amser i drafod hyn yn y Senedd, felly dwi'n falch ein bod ni'n gallu gwneud hynny heddiw. Mae o'n faes mor, mor bwysig, wrth gwrs, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn faint o briefings ac ati sydd wedi cael eu hanfon ataf i ac eraill gan wahanol sefydliadau dros y dyddiau diwethaf. Dwi'n ddiolchgar am y rheini.

Mi fyddwn ni'n cefnogi'r cynnig heddiw. Mae ein gwelliant ni, yn syml iawn, yn ymwneud â thrio sicrhau ein bod ni'n cydnabod yr anghydraddoldebau sydd yn bodoli o hyd mewn mynediad at ofal diwedd bywyd. Mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi newid sut mae llawer o wasanaethau yn cael eu delifro, a dydy hynny ddim gwahanol yn y maes gofal diwedd oes. Rydyn ni'n gwybod bod rhyw 2,000 yn rhagor o bobl wedi marw gartref yn ystod y pandemig na mewn blynyddoedd diweddar, a thra ei bod hi wrth gwrs wastad wedi bod yn ddymuniad i allu cynnig i bobl allu marw gartref os mai dyna eu dymuniad nhw, dydyn ni ddim yn gwybod, wrth gwrs, os ydy safon y gofal mae'r rheini wedi'i dderbyn yn y misoedd diwethaf wedi bod yr hyn ddylai fo fod, a dwi'n amau, o bosib, na fu o o'r safon yr hoffem ni ei weld, a hynny oherwydd y pandemig. Mae'r pandemig hefyd, dwi'n meddwl, wedi amlygu'r anghydraddoldebau roeddem ni'n ymwybodol ohonyn nhw cynt, a hynny oherwydd bod y pandemig ei hun wedi dangos yn glir iawn pa mor anghyfartal ydy ein cymunedau ni, efo'i effeithiau anghymesur o ar gymunedau tlotach ac ar gymunedau lleiafrifol, er enghraifft.

Felly, sut ydyn ni'n ymateb i hynny? Yn gyntaf, rydyn ni angen cynllun newydd sy'n cymryd agwedd holistig, ac un sydd yn sicr yn sylweddoli'r gweithlu sydd ei angen er mwyn delifro gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru. Yn ail, mae eisiau sylweddoli bod cartrefi gofal yn ddarparwyr gofal lliniarol, a sicrhau'r rheoliadau a pholisïau comisiynu sydd yn adlewyrchu hynny. Yn drydydd, mae eisiau edrych yn benodol ar faterion sy'n ymwneud â gofal lliniarol i blant a phobl ifanc, nid yn unig y gweithlu, efo rhyw 240 o nyrsys plant cymunedol yn brin yn y system ar hyn o bryd, ond hefyd drwy gynnig gwell cefnogaeth i deuluoedd ac i frodyr a chwiorydd. Ac, wrth gwrs, mewn dadl fel hon heddiw, mae'n gyfle i ni gael clywed mwy o syniadau yn cael eu rhoi gerbron.

Mi wnaf i orffen drwy ofyn ychydig o gwestiynau'n benodol i'r Gweinidog. Yn gyntaf, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn cyllido gwasanaethau nyrsio plant cymunedol mewn ffordd gynaliadwy, un ai wedi'u darparu gan yr NHS neu wasanaethau hosbis i blant yn y cartref? Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i lenwi'r gap yn y gweithlu nyrsio cymunedol efo'r sgil a'r profiad sydd ei angen i ddarparu gofal lliniarol i blant ar ddiwedd oes? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn dal byrddau iechyd lleol i gyfrif am y ffordd y maen nhw'n cynllunio a chyllido nyrsio plant cymunedol ar gyfer plant sydd ag anghenion gofal lliniarol? Diolch yn fawr.