Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 3 Chwefror 2021.
Mae llawer o gyd-Aelodau yn y ddadl hon wedi canolbwyntio'n briodol ar effaith COVID-19 ar unigolion sydd angen gofal diwedd oes a'u teuluoedd a fyddai, mewn amgylchiadau arferol, wedi gallu eu cysuro a'u cefnogi ar yr adeg hon. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd straeon dirdynnol am gleifion yn agosáu at ddiwedd eu hoes yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, lle na fu'r cariad a'r gefnogaeth deuluol naturiol honno'n bosibl—mater y cyfeiriodd Mark Isherwood ato'n gynharach wrth agor.
Yn araith rymus olaf y Farwnes Tessa Jowell i Dŷ'r Arglwyddi, disgrifiodd mor huawdl yr hyn y mae'n ei olygu i fyw gyda salwch sy'n byrhau bywyd, a gwnaeth ddatganiad dwfn am fywyd a marwolaeth, sy'n berthnasol i'r ddadl hon heddiw. Dywedodd,
Yn y pen draw, yr hyn sy'n rhoi ystyr i fywyd yw nid yn unig sut y caiff ei fyw, ond sut y mae'n dirwyn i ben.
Mae gofal diwedd oes nid yn unig yn bwysig i'r ffordd y mae unigolyn yn marw, ond sut y rhoddir ystyr i fywyd unigolyn; sut, yn rhannol, y caiff y bywyd hwnnw ei gofio. Mae nid yn unig yn ymwneud â gofal meddygol, ond â gofal personol hefyd. Mae cynnwys teulu a ffrindiau agos yn ganolog i hynny. Yr hyn a fu mor anodd i bobl a'u perthnasau dros y misoedd diwethaf yw absenoldeb yr hyn y byddid yn ei ddisgwyl fel arfer pan fo rhywun yn agosáu at ddiwedd eu hoes a'r trallod a fo ynghlwm wrth hynny i deuluoedd. Ac wrth gwrs, fel y clywsom, nid teuluoedd yn unig sydd wedi dioddef, mae staff wedi dioddef hefyd. Dyna pam y mae ein cynnig yn cynnwys yr effaith ar ein staff iechyd a gofal sydd wedi dangos y fath broffesiynoldeb a thrugaredd yn ystod y pandemig.
Mae angen gwasanaethau gofal lliniarol a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel ar deuluoedd a staff, i gydnabod rhywfaint o drawma'r 10 mis diwethaf. Mae angen i ni ddeall yn well yr effaith ar ein staff a sut y mae profiadau'r pandemig hwn wedi llywio eu barn am eu rôl a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a beth y mae'r frwydr yn erbyn COVID yn ei olygu mewn perthynas â recriwtio staff iechyd a gofal y dyfodol.
Rydym i gyd yn gwybod bod ein staff iechyd a gofal yn gweithio mewn amgylcheddau anodd ar adegau arferol, ond ni allai neb fod wedi rhagweld rhai o'r amodau mewn wardiau ysbytai ac ystafelloedd cartrefi gofal dros y misoedd diwethaf, lle mae cynifer o bobl wedi colli eu bywydau. Mewn llawer o achosion, mae staff nid yn unig wedi bod yn gwneud eu gwaith ac yn darparu gofal lliniarol, ond maent wedi gweithredu fel teuluoedd dirprwyol lle na chaniatawyd i aelodau o'r teulu ymweld. Os ydym o ddifrif am ymateb i ganlyniadau'r pandemig hwn, mae angen inni ailystyried sut y darperir gwasanaethau profedigaeth a chymorth. Dyna pam rwy'n cefnogi ein galwad am fframwaith profedigaeth cenedlaethol a'n bod yn cydnabod bod angen digon o arian i sicrhau nad yw COVID-19 yn creu pandemig arall—pandemig salwch meddwl.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am yr heriau penodol a wynebir gan bobl sy'n byw gyda chlefyd niwronau motor (MND) ledled Cymru—heriau y mae'r Gymdeithas MND wedi tynnu sylw atynt. Mae'r Gymdeithas MND wedi bod yn ymgyrchu i ganiatáu i gleifion MND gael budd-daliadau'n gyflymach dros gyfnod y pandemig. Ar lefel y DU, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gorffen eu hadolygiad, a hoffwn glywed gan y Gweinidog yn nes ymlaen sut y gall Llywodraeth Cymru helpu dioddefwyr MND i gael cymorth yn gyflymach yn ystod camau olaf bywyd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn. Gadewch inni ymdrechu i helpu cleifion sydd â salwch hirdymor ac angheuol i gael y gofal sydd ei angen arnynt hwy a'u teuluoedd. Gadewch inni ymdrechu i sicrhau bod ein meddygon a'n nyrsys yn gallu manteisio ar rwydwaith cymorth priodol i'w helpu gyda'u lles emosiynol, a gadewch inni sicrhau bod pobl o bob rhan o Gymru yn gallu manteisio ar wasanaethau profedigaeth proffesiynol.