Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 3 Chwefror 2021.
Yn ôl yn y dyddiau tywyll hynny pan doedd dim strwythur gwleidyddol cenedlaethol gan Gymru, roedd yn destun balchder inni'r Cymry ein bod ni'n gallu uniaethu a chefnogi ein timau rygbi a'n timau pêl-droed rhyngwladol, a mynd i'r amgueddfa genedlaethol ac i'r llyfrgell genedlaethol— canolbwyntiau cof ein cenedl pan nad oedd Cymru yn cael ei chydnabod fel endid gwleidyddol o gwbl efo'i Senedd ei hunan. Ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma drysorfa ein hanes, yn cloriannu ein hanes a'n hiaith a'n celfyddyd dros ganrifoedd lawer. Pleser ydy bod yno ac ymhyfrydu yn ein hanes cyfoethog fel cenedl, o'r doreth o lenyddiaeth sydd wedi deillio o'r Cymreictod hwnnw.
A beth sydd yna? Fel rydyn ni wedi clywed gan eraill, trysorau llenyddol a diwylliannol ein cenedl: y Beibl Cymraeg gwreiddiol o 1588, Llyfr Du Caerfyrddin o 1250, Llyfr Taliesin o 1350, Llyfr Gwyn Rhydderch o'r flwyddyn 1350 hefyd, deddfau Hywel Dda o'r flwyddyn 1300, a nifer helaeth eraill o lawysgrifau cyfoethog ein gwlad. Ein hanes urddasol fel pobl; casgliadau o bwys rhyngwladol.
Nawr roedd hyn i gyd yn y fantol tan y cyhoeddiad heddiw, ac rwyf mor falch, yn lle rhestru anghyfiawnderau yn ein herbyn ni'r Cymry ac ychwanegu'r bygythiad i'r llyfrgell genedlaethol at hynny, fel roeddwn i'n paratoi fy araith ddoe, dyma fi heddiw yn hytrach yn llongyfarch y Llywodraeth o waelod calon am y cyhoeddiad yma heddiw, am yr arian i'r llyfrgell genedlaethol ac i'r amgueddfa genedlaethol. Wrth lwc fy mod i'n gallu newid fy araith heddiw.
Dwi hefyd yn llongyfarch ac yn talu teyrnged i'r ymgyrch gref dorfol sydd wedi dod â ni i'r penderfyniad yma heddiw. Heb ddeffroad ein pobl, byddem mewn lle gwahanol iawn, a'r ddeiseb yna yn allweddol. Diolch i bawb. Edrychwn ymlaen i ffyniant ein llyfrgell genedlaethol fel un o lyfrgelloedd mawr y byd. Cefnogwch y cynnig heb ei wella.