10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:51, 9 Chwefror 2021

Mae'n anochel fod y gyllideb ddrafft a'r gwaith o graffu arni wedi'u llywio gan gyd-destun y pandemig, fel y mae eraill wedi crybwyll eisoes, ac mae'r pandemig yma'n gallu newid yn gyflym. Mae angen sylweddoli maint yr argyfwng iechyd cyhoeddus y mae Cymru yn ei wynebu, naill ai o ran ymateb i'r heriau uniongyrchol, neu'r angen i wneud yr hyn y gellir ei wneud i gynnal ac adfer y gwasanaethau hanfodol hynny y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac nad ydynt yn ymwneud â COVID. Credwn na fydd gwir faint yr effaith ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn dod yn gwbl glir am rai blynyddoedd. Ar ben hyn, mae'r argyfwng hefyd wedi dwysáu rhai problemau sylfaenol, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd.

Rydyn ni'n cydnabod yn benodol y pwysau y mae'r byrddau iechyd lleol wedi'i wynebu yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac rydym yn deall bod hyn yn debygol o barhau. Er hynny, mae'r ffaith nad yw rhai byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol yn parhau i fod yn destun pryder. Yn ogystal â hyn, nid ydym wedi ein darbwyllo eto fod digon o gapasiti yn y system i fwrw ymlaen efo'r broses o integreiddio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol mor gyflym ac i'r un graddau ag y bo angen, na bod y weledigaeth strategol ar gyfer y trawsffurfiad yn ddigon i sicrhau a chynnal y pwyslais ar symud tuag at wasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau ataliol.

Rydyn ni'n pryderu o hyd am y ffaith bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal i fod yn fregus. Mae gwasanaethau o'r fath nid yn unig yn hollbwysig i'r rhai sy'n eu derbyn, ond maen nhw hefyd yn hanfodol yn y modd y maen nhw'n ategu ac yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd. Rydyn ni wedi ein darbwyllo bod angen dybryd i ddiwygio'r system ac i ddatblygu trefniadau cyllido cynaliadwy a hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig sylweddoli faint o bwysau maen nhw wedi ei wynebu ac yn dal i'w wynebu, a'r trawma y maent wedi'i ddioddef dros y misoedd. Rydyn ni'n croesawu'r cynllunio i ddarparu cymorth iechyd meddwl i 60,000 o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru, a'r cynlluniau i ehangu'r cynllun i gynnwys staff gofal cymdeithasol. Bydd angen ystyried effaith y pandemig ar unigolion a gwasanaethau hefyd wrth gynllunio'r gweithlu ac adnoddau ac wrth ddechrau ar y gwaith adfer yng Nghymru.

Yn ogystal â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig, mae cannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn dyngedfennol gan roi gofal a chymorth y mae mawr eu hangen i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gaiff gofalwyr gan y trydydd sector, ond credwn bod angen eu cynorthwyo'n ddigonol drwy ddarparu gwasanaethau awdurdod lleol craidd a chyllid cynaliadwy. Drwy gydol eleni, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl briodol wedi buddsoddi symiau sylweddol i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae cwrs y pandemig yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr, ond mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol, mae'n debyg, ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. 

I gloi, bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud am y modd y dylid blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ac wrth ymgysylltu efo'u partneriaid i nodi unrhyw anghenion ychwanegol posib, ac i ystyried sut y gellid dyrannu a blaenoriaethu adnoddau i ymateb i'r pandemig, hybu'r gwaith tymor hwy o adfer y sector iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon, a buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl Cymru.