Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 9 Chwefror 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfraniad wrth agor y ddadl hon. Mae tri mater yr hoffwn ymdrin â nhw yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma: strwythur ein harian, ac yna incwm a gwariant.
Gadewch i ni edrych ar y strwythur yn gyntaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn glir iawn yn ei adroddiad fod y ffordd y mae'r gyllideb wedi'i strwythuro a'r cyd-destun y mae'r gyllideb yn digwydd ynddo eleni yn anfoddhaol, ac rwy'n cytuno â hynny yn yr adroddiad hwnnw. Nid bai'r Gweinidog na'r Llywodraeth yw'r sefyllfa hon o reidrwydd; rydym yn cydnabod hynny. Ond 20 mlynedd ar ôl datganoli, mae pob un o'n Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu gormod ar fympwyon a dyheadau Trysorlys y DU. Mae llawer o fethiannau y mae'r Prif Weinidog wedi'u hamlinellu droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf lle mae gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn methu ymdrin â realiti datganoli. Yn sicr y llanastr ynghylch arian cyhoeddus ledled y DU yw un o'r enghreifftiau mwyaf arwyddocaol, ac rwyf yn gobeithio, pan ddeuwn yn ôl i drafod y materion hyn yn y Senedd nesaf—fod hwnnw'n fater y bydd angen inni allu mynd i'r afael ag ef gyda Llywodraeth y DU.
Ymdriniodd Siân Gwenllian â'r ail fater strwythurol yn ei chyfraniadau a hithau'n Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid, a hynny yw bod gormod o arian y gyllideb hon heb ei ddyrannu, ac mae hynny'n gwneud craffu ac atebolrwydd democrataidd priodol ynghylch gwariant yn anodd iawn, ac yn llawer anoddach nag y dylai fod. Y tro hwn, rwy'n credu y dylid maddau i'r Llywodraeth am y sefyllfa hon, oherwydd rydym mewn sefyllfa gyfnewidiol iawn, rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, ac nid oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa ymhen chwe mis. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Llywodraeth yw na ddylid ystyried bod derbyn hynny yn gosod cynsail, ac yn y dyfodol, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a phriodol bod y Llywodraeth yn mynd yn ôl at sefyllfa lle mae gennym dryloywder agored wrth wneud y cynigion cyllidebol hyn.
Yr ail fater yw incwm. Rwy'n canmol uchelgeisiau'r Llywodraeth ac rwyf yn rhannu eu huchelgeisiau. Rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi mwy yn ein pobl, rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi yn ein hamgylchedd a'n lleoedd, ond rwy'n pryderu nad oes gennym y grym i wneud hynny. Os wyf i'n gwbl onest â chi, Gweinidog, nid yw'n ddigon da treulio dydd ar ôl dydd yn ymosod ar y Torïaid am gyni ac yna'n ei gyflawni mewn gwirionedd yng Nghymru. A dyna'r realiti sy'n ein hwynebu mewn termau real. Mae'n rhaid inni fuddsoddi naill ai yn ein sylfaen drethi neu mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn ehangu a dyfnhau'n sylfaen drethi. Nid wyf yn siŵr a yw'r gyllideb hon yn gwneud llawer o'r tri hynny, os wyf i'n gwbl onest â chi.
Ni allwn gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym gyda'r cyllid sydd ar gael inni, ac mae angen inni allu mynd i'r afael â hynny. Ac mae hynny'n arbennig o wir ar hyn o bryd, nid yn unig oherwydd y pandemig ac effaith y pandemig—er bod hynny'n sbardun mawr—ond mae hefyd yn wir oherwydd y bradychiadau yr ydym wedi'u gweld gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid amaethyddol a chronfeydd strwythurol. Maen nhw wedi dweud celwyddau uniongyrchol wrth bobl Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cyflawni'r addewidion a wnaethpwyd. Mae hynny'n broblem wirioneddol i ni, oherwydd mae'n rhaid i ni gasglu'r darnau ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym y grym i wneud hynny.
Fy mhwynt olaf yw hyn, Gweinidog, ar wariant. Gobeithio pan ddaw'r Llywodraeth yn ôl ar gyfer dadleuon diweddarach ar y materion hyn y byddant yn mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Cytunais â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am brydau ysgol am ddim. Rwy'n credu bod gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma'n iawn ar y cyfan, ac rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn. Mae'r Llywodraeth ar ochr anghywir y ddadl hon. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydnabod hynny a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth, wrth ddychwelyd i'r Siambr, yn cydnabod nad yw ei safbwynt yn gynaliadwy nac yn gredadwy ar y mater penodol hwnnw.
Ond hefyd, mae angen i ni fuddsoddi mewn lleoedd sy'n dioddef yn anghymesur ar hyn o bryd, sef lleoedd fel Blaenau Gwent, lleoedd fel Blaenau'r Cymoedd, dyma rai o'n pobl dlotaf, lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae angen i'r gyllideb gydnabod hynny. Mae angen inni gydnabod mai'r unig ffordd y byddwn ni'n cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaethau, yr ydym i gyd yn cytuno â nhw ac yr ydym i gyd yn eu rhannu, yw trwy fuddsoddi yn y lleoedd hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw. Rwyf yn cynrychioli un o'r lleoedd hynny, ac nid yw'n gredadwy dweud wrth y bobl hynny, a'r bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio'u cynrychioli, 'A wyddoch chi beth? Gallwn gyflawni'r holl bethau gwahanol hyn, ac nid yw'n mynd i gostio ceiniog ychwanegol i chi.' Nid yw hynny'n gredadwy. Nid yw erioed wedi bod yn gredadwy. Nid yw wedi bod yn gredadwy yn y gorffennol, nid yw'n gredadwy heddiw, ac ni fydd yn gredadwy yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud hynny.
Fy mhwynt olaf yw: gadewch inni beidio â mynd i gylch cyllideb arall gan ddweud y gall strwythur y sector cyhoeddus yng Nghymru gyflawni unrhyw un o'r pethau hyn. Ni all o gwbl. Nid oes gennym y strwythurau ar waith i'w wneud, felly mae angen cyllideb ddiwygio arnom yn ogystal â chyllideb sy'n buddsoddi mewn pobl, lleoedd, yr amgylchedd a'r dyfodol. Gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ddadl hon dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r holl bethau gwahanol hynny. Diolch yn fawr iawn.