Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 9 Chwefror 2021.
Drafft yn sicr yw’r gyllideb ddrafft hon. Mae diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol a setliad cyllid refeniw am flwyddyn yn unig wedi gwneud y gwaith o osod cyllideb yn fwy heriol byth. Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru gronfeydd wrth gefn sylweddol gwerth oddeutu £800 miliwn, a’r rheini heb eu dyrannu. Y bwriad yw i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei gosod ar 3 Mawrth, sy’n golygu na fydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried ei chynnwys. Felly, mi fedrwn ni fod yn sicr y bydd yna newidiadau sylweddol i ddyraniadau yn ystod y flwyddyn. Felly, rydym ni'n argymell bod y Gweinidog yn amlinellu goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.
Mae gan y pwyllgor bryder ers cryn amser am y mecanwaith a’r tryloywder mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu defnyddio ar gyfer penderfyniadau cyllido, gyda’r Gweinidog yn dweud bod yr ymgysylltu ar lefel weinidogol rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru wedi bod yn 'wael'. Yn 2020-21, cafwyd symiau mawr o gyllid canlyniadol yn ystod y flwyddyn. Mae problemau hefyd gyda thryloywder y symiau canlyniadol hyn a’r ffordd maen nhw’n cael eu cyfrifo. Canlyniad hyn oedd gwybodaeth gyfyngedig i’r pwyllgor am gyllid ychwanegol a datganiadau croes i’w gilydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal fel arfer erbyn dyddiad penodol, ac y bydd setliadau cyllido aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer proses gyllideb y flwyddyn nesaf.
Eglurodd y Gweinidog wrth y pwyllgor sut mae proses penderfyniadau cyllidebol wedi newid yn ystod y pandemig, gyda Gweinidogion yn cyfarfod yn aml i ymdrin â materion allweddol wrth iddyn nhw godi. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion y Gweinidog i reoli'r broses flaenoriaethu yn fwy canolog eleni. Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi systemau ar waith i sicrhau, pan gaiff symiau canlyniadol, ei bod yn gallu blaenoriaethu a darparu cyllid yn gyflym ac yn effeithiol.
Mae'r pwyllgor yn croesawu’r dull sydd wedi cael ei ddefnyddio’r flwyddyn hon lle mae newidiadau i drethi Cymru wedi cael eu gwneud fel rhan o’r gyllideb ddrafft, o gofio bod newidiadau treth yn gysylltiedig ag ymrwymiadau gwariant. Pleidleisiodd y Senedd hon ar dair set o reoliadau treth ar 2 Chwefror. Fodd bynnag, rydym ni'n credu y byddai’n ddoethach i’r gyllideb a'r penderfyniadau treth gael eu hystyried ar yr un pryd.
Mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19 ac mae’r effaith ariannol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn sylweddol. Rydym yn croesawu'r cynnydd ar gyfer iechyd sy'n adlewyrchu'r rôl bwysig y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei chwarae wrth ymateb i'r pandemig. Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod bron i £700 miliwn o'r gronfa wrth gefn sydd heb ei ddyrannu yn ymwneud â COVID-19 a'i bod hi’n bwriadu gwneud dyraniadau ychwanegol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol.
Dyw hi ddim yn glir faint o adnoddau sydd wedi cael eu nodi ar gyfer y codiad cyflog i staff y gwasanaeth iechyd ac, felly, ba gyllid ychwanegol fydd ar gael i ymateb i'r pandemig, yn ogystal â gwasanaethau nad ydyn nhw’n ymwneud â COVID. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am sut y bydd y £385 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau craidd y gwasanaeth iechyd yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys dadansoddiad i ddangos faint sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y dyfarniad cyflog i staff a gwasanaethau eraill.