Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 9 Chwefror 2021.
Fe glywsom ni fod yna broblemau sylweddol efo capasiti’r gweithlu cyn y pandemig a bod y pandemig wedi gwaethygu’r problemau hyn. Rydym ni hefyd yn pryderu am effeithiau tymor hir y pandemig ar ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID. Rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y gofal nad yw'n gysylltiedig â COVID dros y flwyddyn nesaf, ond bydd pwysau parhaus ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gweithwyr gofal iechyd oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, a'r ffaith y bydd llai o staff ar wardiau, a gallai hyn fod yn gymaint o her â COVID. Rydym ni hefyd yn pryderu’n fawr am yr effaith ar staff y gwasanaeth iechyd ledled Cymru. Rydym fel pwyllgor wedi argymell bod y gyllideb ddrafft yn egluro sut mae dyraniadau'n mynd i'r afael â'r materion cyfredol sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd gwladol o ran nifer y staff a chapasiti, yn ogystal â'r materion y mae'n debygol o'u hwynebu o ystyried effaith barhaus y pandemig ar ei weithlu.
Rydym ni hefyd yn argymell bod angen mwy o fuddsoddiad mewn staff a hyfforddiant i gefnogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd. Mae'n hanfodol bod y gwaith o gyflwyno’r brechlynnau yn parhau yn gyflym, ac mae'r pwyllgor yn croesawu'r sicrwydd cyllid ar gyfer y rhaglen frechu ac ar gyfer profi, olrhain a diogelu. O ystyried bod cyllid ar gyfer y rhaglen frechu yn cynnwys cyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid y Deyrnas Unedig, dylai Llywodraeth Cymru roi gwybodaeth bellach i wahaniaethu rhwng y costau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu talu a'r rhai yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd yn darparu ar gyfer y rhaglenni hynny.
Bydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Rydym ni’n croesawu safbwynt y Gweinidog y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, wrth fynd i'r afael â lefelau uwch o broblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'r pandemig, rydym ni'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn mesurau ataliol sy'n ystyried penderfynyddion ehangach iechyd meddwl, megis sgiliau a chyflogadwyedd, addysg, tai, mynediad i fannau gwyrdd a gweithgaredd corfforol.
Mae awdurdodau lleol hefyd o dan bwysau cynyddol a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Mae’n destun pryder clywed na fydd y cyllid cynyddol yn setliad llywodraeth leol yn cwmpasu’r holl bwysau o ran costau, fel costau gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg. Mae hefyd yn destun pryder clywed bod darparwyr gofal cymdeithasol wedi dweud bod cronfa galedi’r awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21 yn hanfodol er mwyn goroesi. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu'r cyllid ychwanegol sydd yn y gyllideb ddrafft, sef £172 miliwn, neu 3.8 y cant ychwanegol mewn cyllid craidd cyffredinol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond rydym ni'n gwybod bod arweinwyr y gymdeithas wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am derfyn ariannu isaf.
Mae'r pwyllgor yn pryderu’n fawr am y risg y bydd ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a phlant blynyddoedd cynnar, yn colli tir yn eu haddysg o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut mae'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac addysg yn cefnogi'r ffyrdd cyfredol o ddysgu, a sut mae’n darparu digon o adnoddau i ymdrin ag effaith negyddol y pandemig ar addysg.
Mae’r aflonyddwch economaidd a achoswyd yn sgil y pandemig wedi bod yn ddinistriol. O ystyried nad ydym ni’n gwybod beth yw llwybr y pandemig o hyd, ac efo llawer o fusnesau yn dal i fethu â masnachu, ac ansicrwydd ynghylch pa mor gyflym y bydd hyder busnes yn dychwelyd, mae'n synhwyrol caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor o'r farn y gallem ni weld mwy o uchelgais gan Lywodraeth Cymru yn ei chynllun ailadeiladu, a gwell pecynnau cymorth ar gyfer busnesau.
Yn ogystal â'r effeithiau a ragwelir ar gyflogaeth, gallai'r argyfwng newid yr economi am byth, gyda newidiadau sylfaenol mewn patrymau gwaith, ymddygiadau a'r farchnad lafur. Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw'r rhaglenni adfywio presennol yn dal i gynrychioli'r gwerth gorau, ac y dylai ystyried yr angen i ganolbwyntio mwy ar gefnogi twf a buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd, yn enwedig ar gyfer economi werdd, gynaliadwy. Mae'n debygol y bydd 2021-22 yn dal i gael ei reoli gan yr ymateb i'r pandemig, ac yn amlwg bydd llawer o waith i’r Llywodraeth nesaf, a'r Pwyllgor Cyllid nesaf, i'w wneud, ond rydym ni'n obeithiol y bydd modd symud i ganolbwyntio ar adferiad yn ystod y flwyddyn.
I gloi, felly, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ar bob cam o'r broses graffu, trwy ein hymgynghoriadau ni, ein harolygon a'n polau. Mae pob un o’r rhain wedi helpu i lunio ein casgliadau. Dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Diolch, Llywydd.