11. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:40 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 7:40, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Ac amlygodd yr adroddiad mai ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymestyn cymorth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r ysgol, ymrwymiad yr ydym ni wedi ei ymestyn hyd at Basg 2022 bellach. Mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £3.2 biliwn wedi darparu'r cynnig mwyaf hael o gymorth i fusnesau unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, wedi'i lunio gan gyngor ein cyngor partneriaeth gymdeithasol. A chyn gynted ag y bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, wrth gwrs ein bod ni'n dymuno gweld ein busnesau'n masnachu ac yn ffynnu eto.

Llywydd, rwy'n falch iawn o adrodd bod ein timau brechu gwych wedi rhoi'r dos cyntaf o'r brechlyn i fwy na 600,000 o bobl mewn ychydig dros ddau fis. Mae hyn yn gynnydd gwirioneddol ryfeddol mewn cyfnod mor fyr a byddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf a gyflwynwyd i'r ddadl y prynhawn yma, ond yn gwrthod y ddau arall.

Cyni, Brexit, newid hinsawdd a'r coronafeirws: byddai'r cyfuniad hwn o heriau wedi bod yn ddigon i arafu cynnydd unrhyw Lywodraeth, ond mae'r Llywodraeth hon wedi cyflawni'r addewidion a wnaeth i bobl yng Nghymru bum mlynedd yn ôl. Yn 2016, fe wnaethom ni addo y byddem yn torri trethi i fusnesau bach ac rydym ni wedi gwneud hynny; y byddem yn darparu gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed ac rydym ni wedi gwneud hynny hefyd; buddsoddi £100 miliwn mewn safonau ysgolion, ac mae hynny wedi ei wneud; creu cronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn i wella mynediad at feddyginiaethau newydd, sydd wedi ei wneud hefyd; dyblu'r terfyn cyfalaf i £50,000, wedi ei wneud ddwy flynedd yn gynharach nag a addawyd; creu 100,000 o brentisiaid o bob oed, ac mae hynny wedi ei gyflawni hefyd; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy. Mae pob un o'r addewidion hynny wedi ei gyflawni. A dim ond y cynigion mwyaf amlwg a wnaethom i bobl Cymru oedd hyn. Rydym wedi cyflawni rhaglen waith lawer ehangach i ddiogelu a meithrin ffyniant ac i wneud Cymru yn wlad fwy cyfartal a gwyrddach.

Fe wnaethom ni greu'r banc datblygu, sy'n destun cenfigen i weddill y DU. Buddsoddodd dros £100 miliwn yn 2019-20, gan ddiogelu neu greu bron i 4,000 o swyddi yng Nghymru. Erbyn hyn, mae'n rheoli mwy nag £1.2 biliwn o arian Llywodraeth Cymru—graddfa ddigynsail o fuddsoddiad yn ein heconomi. Llywydd, bu'r tymor hwn yn dymor yr economi sylfaenol, y nwyddau a'r gwasanaethau bob dydd sydd eu hangen arnom ni i gyd, y swyddi sy'n aros yn y cymunedau sy'n eu creu. Rydym ni'n cefnogi prosiectau arloesol ledled Cymru i brofi ffyrdd newydd cyffrous o weithio yn y sector hollbwysig hwn.

Ac wrth sôn am y rhai hynny sydd â'r lleiaf, rydym yn parhau i fuddsoddi yng nghynllun gostwng y dreth gyngor i Gymru yn unig, gan helpu dros 270,000 o aelwydydd mewn angen i gael dau ben llinyn ynghyd, gyda 220,000 o aelwydydd yn talu dim treth gyngor o gwbl. Rydym ni wedi rhoi £27.6 miliwn, sef y mwyaf erioed, i'n cronfa cymorth dewisol unigryw eleni yn unig. Rydym ni wedi lansio ein cronfa gynghori sengl, sy'n dod â miliynau o bunnoedd i deuluoedd y mae angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Rydym ni wedi dyblu a dyblu eto sawl gwaith y gall plentyn gael cymorth gyda chostau'r diwrnod ysgol. Rydym ni wedi creu, ehangu ac ariannu ein rhaglen genedlaethol i fynd i'r afael â newyn gwyliau—yr unig enghraifft yn y Deyrnas Unedig gyfan o gynllun cenedlaethol, wedi ei ariannu yn genedlaethol.

Llywydd, trof at argyfwng mawr arall hwnnw ein cyfnod ni, yr argyfwng hinsawdd y datganodd y Senedd hon yn 2019, gan ddod yn Senedd gyntaf unrhyw le yn y byd i wneud hynny. Ar yr ochr hon i'r Senedd, rydym yn rhyngwladolwyr nid cenedlaetholwyr, sy'n canolbwyntio ar gyd-ddibyniaethau'r blaned fregus hon, nid lledrith annibyniaeth. Rydym yn gwneud ein cyfraniadau o ddifrif ac yn ymarferol ar draws yr ystod gyfan o gyfrifoldebau'r Llywodraeth hon. Mae Cymru yn parhau i fod yn un o'r gwledydd ailgylchu gorau yn y byd i gyd, ond rydym yn dal i fod eisiau bod yn well. Rydym ni wedi buddsoddi mwy na £40 miliwn yn yr economi gylchol, gan ein helpu i ddefnyddio ac ailddefnyddio ac yna ailgylchu deunyddiau a allai gael eu taflu fel arall, gan gefnogi ein nod o fod yn Gymru ddi-garbon.

Ym mis Awst, fe wnaethom ni gyhoeddi ein cynllun aer glân, yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i wella ansawdd aer, a, fis diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi Papur Gwyn hefyd i gryfhau ein dull gweithredu. Rydym ni wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer coedwig genedlaethol, ac mae ein rhaglen lleoedd lleol ar gyfer natur wedi creu bron i 400 o erddi cymunedol a mannau gwyrdd eraill lle mae pobl yn byw, gan ddod â natur i garreg drws pobl mewn blwyddyn pan fo'i hangen arnom fwyaf. Yn 2020, am y tro cyntaf yn ein hanes, cafodd mwy na hanner anghenion trydan Cymru eu diwallu gan ynni adnewyddadwy, ac mae dros 72,000 o brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan ein symud yn nes at gynhyrchu ynni carbon isel cynaliadwy.

Llywydd, dyma'r ail dymor llawn pan fo'r Senedd wedi arfer pwerau deddfu llawn. Mewn tymor o bum mlynedd sydd wedi ei ddominyddu gan Brexit a'r pandemig, mae ein llwyth gwaith deddfwriaethol wedi adlewyrchu'r cymysgedd hwnnw. Rydym ni wedi gwneud 72 o offerynnau statudol ymadael â'r UE yng Nghymru ac wedi cydsynio i 219 o offerynnau statudol yr UE eraill yn y DU, wrth i ni sicrhau bod ein llyfr statud yn barod ar gyfer Brexit. Mae effaith ddeddfwriaethol y coronafeirws wedi dominyddu gwaith y Senedd am bron i 12 mis, gan roi galwadau enfawr ar adnoddau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Rydym ni wedi gwneud ac adnewyddu'r ddeddfwriaeth sydd wedi cadw Cymru'n ddiogel ar fwy na 120 o adegau. A hyn i gyd wrth hefyd basio 17 o gyfreithiau newydd, a thri arall yn dal i fod gerbron y Senedd. O'i ystyried gyda'i gilydd, mae ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi ehangu'r fasnachfraint mewn etholiadau llywodraeth leol, wedi rhoi mwy o sicrwydd i rentwyr, wedi gosod y sylfeini ar gyfer ein cwricwlwm newydd, wedi amddiffyn plant drwy wahardd defnyddio cosb gorfforol, wedi cyflwyno isafswm pris alcohol, wedi diddymu'r hawl i brynu, wedi diddymu cyfreithiau gwrth-undebau llafur gormesol, ac wedi creu'r trethi cyntaf yng Nghymru am bron i 800 mlynedd, trwy ddefnyddio'r pwerau hynny at ddibenion blaengar.

Llywydd, mae'r adroddiad blynyddol yn nodi'n glir sut y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi gweithio trwy'r amgylchiadau anoddaf i wella bywydau pobl yng Nghymru mewn ffyrdd ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae'r cyflawniadau hyn yn fuddsoddiad mewn Cymru well yn awr ac yn y dyfodol, ac maen nhw wedi helpu i gadw ein pobl yn ddiogel yn wyneb heriau eleni. Nid yw'r heriau hynny wedi diflannu, nac ychwaith flaenoriaethau'r Llywodraeth hon i amddiffyn y gwasanaeth iechyd, diogelu swyddi a gweithio'n galed bob dydd dros Gymru fwy cyfartal. Dyna sut yr ydym yn dechrau edrych ymlaen at ailadeiladu, dyna sut y gallwn ni greu dyfodol sy'n decach, ac yn well am ei fod yn decach. Mae cofnod y Llywodraeth hon yn destun balchder, ac, yn bwysicaf oll, yn ffynhonnell gobaith. Gwahoddaf y Senedd i ystyried yr adroddiad blynyddol.