Part of the debate – Senedd Cymru am 8:07 pm ar 9 Chwefror 2021.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn. A gaf i ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei sylwadau agoriadol hael? Rwy'n gwybod ei fod ef wedi cofnodi'r prynhawn yma, ei werthfawrogiad o'r ymdrechion brechu sydd wedi'u gwneud gan weithwyr rheng flaen yma yng Nghymru, ac fel y dywedais i, bydd y Blaid Lafur a'r Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant cyntaf y mae ei blaid wedi'i osod yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch iddo am ei gefnogaeth i benderfyniad y Llywodraeth hon i gytuno i'r ymdrech ledled y DU i gaffael brechiadau.
Rwy'n rhannu ei ofid na fu'n bosibl cyflwyno Bil aer glân yn ystod blwyddyn olaf tymor y Senedd hon, yn union fel yr wyf i'n edifar y ffaith nad yw'r Bil partneriaeth gymdeithasol wedi bod yn bosibl, nad yw'r Bil addysg drydyddol wedi bod yn bosibl, a bod llawer o agweddau pwysig eraill ar ein rhaglen ddeddfwriaethol wedi gorfod cael eu haberthu oherwydd y galwadau y mae coronafeirws wedi'u rhoi ar adnoddau Llywodraeth Cymru, ac ar adnoddau'r ddeddfwrfa hon hefyd.
Mae ein hymrwymiad i Ddeddf aer glân mor gryf heddiw ag y bu drwyddi draw. Dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi'r ddogfen y gwnaethom ni—cafodd hi ei lansio yn yr Eisteddfod ym mis Awst—a pham yr ydym ni wedi cyhoeddi Papur Gwyn. Mae'n ymrwymiad clir i'n penderfyniad i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at ei gefnogaeth pan fyddwn ni'n gwneud hynny. Byddai'n dda gennyf i pe byddai modd cael ei gefnogaeth dros lygredd yn y diwydiant amaethyddol hefyd, ond rydym ni'n ymwybodol nad ydym ni'n mynd i gael hynny, a bydd pobl yn dod i'w casgliadau eu hunain.
Dywedodd Adam Price, Llywydd, na fyddai'n ailadrodd ei gyfraniad yn gynharach heddiw cyn iddo ef fynd ymlaen i wneud hynny. Pan na allai ddweud nad oedd ein targedau wedi'u cyrraedd, ceisiodd ddadlau nad y targedau oeddynt. Nid wyf i'n credu bod yr 20,000 o deuluoedd sydd bellach yn gallu byw mewn cartrefi na fydden nhw fel arall wedi bod ar gael iddyn nhw—cartrefi gweddus, cartrefi fforddiadwy, cartrefi ym mhob rhan o Gymru—nid wyf i'n credu y bydden nhw'n rhannu'r agwedd ddiystyriol at yr hyn a ailadroddodd am yr eildro'r prynhawn yma.
A gaf i ddiolch i Dawn Bowden am ei chefnogaeth i Lywodraeth Cymru drwy gydol cyfnod heriol iawn y 12 mis diwethaf? Diolch iddi hi hefyd am sôn am raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, y rhaglen adnewyddu ein hystâd addysg fwyaf am 50 mlynedd—rhaglen heb ei hail nid yn unig yn y cyfnod datganoli ond am 30 mlynedd cyn hynny. Wrth gwrs, mae hi'n iawn i dynnu sylw at yr holl bethau eraill hynny yr ydym ni'n eu gwneud a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth yng nghymunedau'r Cymoedd. Pan gyfeiriodd hi at gwblhau ffordd Blaenau'r Cymoedd, mae hynny'n cwblhau, unwaith eto, brosiect sydd wedi bod yn brosiect Llafur drwy gydol cyfnod datganoli, prosiect, fel y gwyddom ni, wedi ymosod arno'n arw ar lawr y Senedd gan Blaid Cymru wrth i ni symud tuag at ei gwblhau, ond prosiect a fydd yn dod â ffyniant a chyfle economaidd newydd i'r cymunedau hynny yn y Cymoedd sydd gan y Llywodraeth Lafur hon wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried yn bwysig ar gyfer dyfodol Cymru.
Diolch i Mick Antoniw hefyd am dynnu'r llinyn hwnnw sydd wedi rhedeg drwy dymor y Senedd hon o adfer amddiffyniadau i bobl a fyddai fel arall wedi cael eu dwyn oddi wrthyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi Bil partneriaeth gymdeithasol drafft. Byddwn ni'n gwneud hynny cyn diwedd tymor y Senedd hon. Bydd ganddo agweddau y byddwn ni eisiau ymgynghori â'n partneriaid yn eu gylch. Dyna natur partneriaeth gymdeithasol. Dyna sut yr ydym ni eisiau i'r Bil ei hun gael ei ddatblygu, mewn partneriaeth â'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, ein cydweithwyr yn yr undebau llafur a gyda chyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yng Nghymru hefyd. Os ydw i'n edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, yna rwy'n credu bod y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn un o'r cryfderau craidd sydd wedi bod gennym ni i'w ddefnyddio yn y dyddiau anoddaf hyn. Mae'r cyngor hwnnw wedi cyfarfod bob pythefnos drwy gydol yr argyfwng. Mae wedi canolbwyntio ar rai o'r penderfyniadau anoddaf y bu'n rhaid i Lywodraethau eu gwneud. Mae wedi datrys rhai materion dadleuol iawn mewn ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol a bydd y Bil yn sicrhau y bydd y ffordd unigryw Gymreig honno o gynnal ein dadl gyhoeddus a chyflawni ein cyfrifoldebau cyhoeddus yn cael ei hategu gan rym y gyfraith os ydym ni mewn sefyllfa i ddod â hynny o flaen y Senedd ar ôl yr etholiad nesaf.
Mae'r adroddiad o flaen y Senedd heddiw yn adlewyrchu'r cyfnod mwyaf rhyfeddol yn ein hanes. Mae'n dangos, os gallwn ni ddweud hynny, nid yn unig y cryfder sydd gennym ni yma yng Nghymru, y gefnogaeth sydd gennym ni gan y cyhoedd, y ffordd yr ydym ni wedi gallu tynnu sefydliadau at ei gilydd, ond mae wedi dangos cryfder y Senedd hefyd, y ffordd y mae'r ddeddfwrfa hon wedi addasu i'r ffyrdd y mae'n rhaid i ni weithio yn awr. Mae wedi dod o hyd i ffyrdd o graffu ar rai o'r darnau mwyaf sylweddol o ddeddfwriaeth sydd erioed wedi'u rhoi o flaen deddfwrfa yng nghyfnod datganoli. Diolch i'r holl Aelodau o bob plaid am y cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud at yr ymdrech genedlaethol eithriadol hon. Wrth gwrs, nid ydym ni'n cytuno ar bopeth, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies, ac ni ddylem ni chwaith, ond pan fydd pethau wedi bod ar eu mwyaf difrifol, y gallu i ddod at lawr y Senedd, i glywed y dadleuon, i gasglu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnom ni—rwy'n credu bod hynny wedi dangos cryfder ein sefydliadau datganoledig yn ogystal â'r ymateb yr ydym ni wedi gallu ei wneud yma yng Nghymru. Wrth gloi'r ddadl hon, rwy'n diolch i bawb sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ymdrech genedlaethol enfawr honno.