Statws Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:03, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y datganiad yna. Rydym ni'n mynd drwy argyfwng iechyd difrifol iawn a rhaglen frechu torfol hefyd erbyn hyn. Arweiniwyd y broses o gaffael y brechlynnau gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol yn cytuno ei bod wedi bod yn llwyddiant mawr a bod caffael y brechlynnau yn enghraifft dda o undeb y DU yn gweithio ar ei orau. Mae'n ymddangos erbyn hyn bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cael eu perswadio yn hwyr o fanteision y dull a arweinir gan y DU, er iddyn nhw fethu â chefnogi gwelliannau o blaid yr union ddull gweithredu hwnnw a gyflwynwyd gan fy mhlaid i, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yma yn y Siambr hon dim ond tair wythnos yn ôl, ond gwell hwyr na hwyrach. Tybed, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi efallai yn bryd i chi roi'r gorau i hedfan eich barcud ynglŷn â'r DU yn dod yn ffederasiwn a nodi'r manteision mawr iawn a all ac sydd wedi deillio o ymateb y DU gyfan i'r argyfwng COVID.