Statws Cyfansoddiadol Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:04, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am ddryswch Plaid Geidwadol Cymru, ond yr hyn yr wyf i'n gyfrifol amdano yw dod i gytundeb gyda gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig pan fyddaf i'n credu bod gwneud hynny er budd Cymru. Dyna pam y mae gennym ni gaffaeliad DU gyfan o gyflenwad o'r brechlyn, oherwydd, o'r cychwyn cyntaf, cytunodd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Dyna'r hyn yr wyf i'n ei olygu wrth ddweud perthynas wirfoddol yn undeb y Deyrnas Unedig.