1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2021.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hynt y broses o gyflwyno'r brechlyn yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56255
Llywydd, mae'r broses o frechu yn Alyn a Glannau Dyfrdwy yn parhau i gyflymu, diolch i ymrwymiad ac ymroddiad pawb sy'n ymwneud â darparu'r rhaglen ragorol hon ledled yr etholaeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yng Nghymru yn parhau i gyflymu. Mae Cymru bellach wedi brechu mwy o'i phoblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Gweithwyr sector cyhoeddus yn dangos unwaith eto y gallan nhw gyflawni a'u bod yn cyflawni pan fyddwn ni eu hangen. Prif Weinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y byddwn ni'n bodloni'r terfyn amser canol mis Chwefror, fel yr addawyd? Yn ail, pa mor ffyddiog ydych chi y gallwn ni barhau i greu mwy o gapasiti wrth symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen frechu? Ac yn olaf, Prif Weinidog, deallaf fod gweithwyr proffesiynol yn gweithio yn eithriadol o galed i ddiogelu'r GIG a phobl agored i niwed, drwy gyflwyno brechiad ffliw enfawr hefyd. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pawb sy'n rhan o'r ddwy raglen?
Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i Jack Sargeant am gyfle i'r Senedd gael siarad am yr hyn y mae pawb arall yng Nghymru yn siarad amdano, sef llwyddiant syfrdanol ein gwasanaeth iechyd gwladol a'r gweithwyr sector cyhoeddus eraill hynny, y swyddogion llywodraeth leol, sydd wedi ein helpu ni i agor canolfannau brechu torfol, a ddaeth o hyd i'r desgiau, a ddaeth o hyd i'r cadeiriau, a ddaeth o hyd i'r ystafelloedd; y gwirfoddolwyr hynny a groesawodd bobl wrth iddyn nhw gyrraedd; yr aelodau hynny o'r lluoedd arfog ym mhob rhan o Gymru i gyd yn rhan o'r ymdrech frechu enfawr honno.
A Dirprwy Lywydd, mae'n iawn ei roi ar y cofnod y prynhawn yma. Meddyliwch am y penwythnos diwethaf yn unig. Ddydd Gwener, aethom y tu hwnt i'r ffigur o 0.5 miliwn o ran nifer y bobl a frechwyd yng Nghymru. Ddydd Gwener a dydd Sadwrn, fe wnaethom frechu 1 y cant o boblogaeth gyfan Cymru ar y ddau ddiwrnod. A ddydd Llun, aethom y tu hwnt i 600,000 o bobl sydd bellach wedi cael eu brechu yn llwyddiannus. Mae'n deyrnged enfawr, ar adeg, fel y dywedodd Jack Sargeant, Dirprwy Lywydd, pan fo'n gweithwyr iechyd yn gwneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw eu gwneud, gan gynnwys y rhaglen brechu rhag y ffliw honno, sydd, gyda llaw, wedi bod yn llwyddiant ysgubol unwaith eto yn y gogledd yn arbennig, ac yn etholaeth yr Aelod, mae gennym ni rai o'r ffigurau gorau o ran manteisio ar y brechiad ffliw yn unman yng Nghymru. I wneud hynny i gyd ar yr un pryd wrth ymateb i bwysau'r gaeaf, gan wneud yr holl bethau eraill y siaradodd Andrew R.T. Davies â mi amdanyn nhw ar yr un pryd, mae'n ymdrech ryfeddol, ac mae arnom ni ddyled enfawr o ddiolchgarwch i'r bobl hynny, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gofnodi hynny yn y fan yma y prynhawn yma.
A byddwn ni, Dirprwy Lywydd, yn gofyn hyd yn oed mwy ganddyn nhw yn yr wythnosau i ddod, oherwydd yn fuan iawn, nid yn unig y byddwn ni'n cynnig brechiad cyntaf i bawb yng grwpiau 5 i 9 y rhestr flaenoriaeth, byddwn yn cynnig ail frechlyn i bawb yng ngrwpiau 1 i 4. A gofynnodd yr Aelod i mi pa un a wyf i'n ffyddiog y byddwn ni'n cwblhau'r gwaith o frechu grwpiau 1 i 4 yn unol â'r amserlen a bennwyd ac a addawyd gennym ac rwy'n falch iawn o ddweud wrtho fy mod i'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n cyflawni hynny yma yng Nghymru.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddydd Iau diwethaf 'Ni fydd unrhyw frechlynnau yn cael eu gwastraffu gan ein bod ni'n defnyddio rhestr wrth gefn a luniwyd yn unol â'r grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol.' Fodd bynnag, mae llawer o drigolion Sir y Fflint wedi cysylltu â mi yn bryderus fel arall. Dywedodd un, 'Cafodd gymydog gnoc ar y drws gan breswylydd newydd a ddywedodd bob dydd bod brechiadau dros ben gan fod llawer o bobl nad oeddent yn dod, ac os oedd ganddi ddiddordeb mewn pigiad, byddai ei chyswllt hi yng nghanolfan frechu Glannau Dyfrdwy yn ei ffonio yn ddiweddarach yn y dydd.' Dywedodd un arall, 'Rwyf i wedi cael gwybod am berson sy'n cael ei gyflogi ar ddyletswyddau TG, sy'n 26 oed heb unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol, a frechwyd ar fyr rybudd. Dyma'r drydedd sefyllfa lle'r wyf i wedi clywed am rywun y tu allan i'r meini prawf cyflwyno yn cael eu brechu ar fyr rybudd.' Dywedodd un arall, 'Mae pobl nad ydyn nhw'n staff rheng flaen y GIG, dros 80, ac yn y blaen, yn cael apwyntiadau i gael y brechlyn. Nid oedd gan yr un ohonyn nhw gyflyrau iechyd sylfaenol.' Fe wnaethon nhw hefyd anfon copi ataf o ffurflen trefnu apwyntiad ar-lein canolfan frechu Glannau Dyfrdwy, gan ofyn, 'Pam mae hon yn cael ei rhannu a'i defnyddio gan bawb na ddylen nhw fod yn gymwys i gael y brechlyn?' Beth, felly, sy'n digwydd, pan nad oes posib na ddylai unrhyw restr wrth gefn flaenoriaethu pobl fel swyddogion heddlu rheng flaen ac athrawon?
Wel, Llywydd, nawr rydym ni wedi clywed yr unig gyfraniad gan y Ceidwadwyr at lwyddiant syfrdanol y broses frechu yma yng Nghymru: casgliad o anecdotau ar hap a heb eu priodoli nad ydyn nhw wir yn gyfystyr ag un darn o sylwebaeth ddifrifol. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod: mae'r gwasanaeth iechyd ledled Cymru, ac yn Betsi Cadwaladr hefyd, yn gweithio mor galed ag y mae'n gallu i ddarparu brechiad yn unol â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Wrth gwrs bod gan fyrddau iechyd restrau wrth gefn, fel bod pobl eraill y gellir galw arnyn nhw pan na all pobl, am bob math o resymau, ddod i apwyntiad ar fyr rybudd, fel nad yw'r brechlyn yn cael ei wastraffu. Beth yn y byd y gellid gwrthwynebu iddo ynglŷn a hynny? Oni fyddai wedi bod yn fwy addas y prynhawn yma pe gallai'r Blaid Geidwadol fod wedi dod o hyd i'r gallu i longyfarch y bobl hynny am bopeth y maen nhw'n ei wneud? Yn hytrach, pan fo 628,000 o bobl wedi cael eu brechu yn llwyddiannus, mae ef eisiau siarad â ni am dri o bobl y mae wedi clywed ganddyn nhw y mae'n ymddangos bod ganddyn nhw gŵyn.