1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 9 Chwefror 2021.
Trown yn awr at gwestiynau arweinyddion y pleidiau, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Adam Price.
Diolch, Dirprwy Lywydd. O weld y stampiau 'gwireddwyd' mawr, beiddgar hynny ar dudalen agoriadol eich adroddiad blynyddol, Prif Weinidog, cefais fy atgoffa o bapur a ddarllenais yn ddiweddar am eich Llywodraeth, a oedd yn dweud hyn:
Tueddir i weld ymgyrch ticio blychau i sicrhau y gellir dweud bod addewidion Maniffesto a Rhaglen wedi eu cyflawni. Yr hyn nad wyf i erioed wedi ei weld yw ymgais gyffredinol i asesu a yw'r canlyniadau dymunol sy'n sail i'r Rhaglen...yn cael eu datblygu.
Nid ydych chi'n cydnabod eich methiannau mewn unrhyw ran o'ch adroddiad, y targedau a fethwyd, yr addewidion a dorrwyd. Dywedasoch y byddech chi'n dileu tlodi tanwydd erbyn 2018; wnaethoch chi ddim. Dywedasoch y byddech chi'n dileu tlodi plant erbyn 2020; wnaethoch chi ddim. Dywedasoch y byddech chi'n lleihau 40 y cant ar allyriadau erbyn y llynedd; wnaethoch chi ddim. I ddyfynnu'r papur hwnnw eto, am eich Llywodraeth:
Mae'r meddylfryd presennol yn gwneud cyflawni yn ail i gynnal y status quo.
Onid yw hynny yn crynhoi pethau yn berffaith, Prif Weinidog?
Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n ymddangos bod yr Aelod wedi gafael yn yr araith anghywir. Ceir dadl ar yr adroddiad blynyddol yn ddiweddarach y prynhawn yma. Bydd yn gallu ailgylchu ei sylwadau, rwy'n siŵr, unwaith eto bryd hynny. Rwy'n credu nad yw pobl sy'n byw yng Nghymru yn rhannu ei agwedd ddirmygus at 20,000 o dai fforddiadwy newydd yma yng Nghymru. Ni fyddai'r bobl ifanc hynny sydd wedi cymryd rhan yn y 100,000 o brentisiaethau ychwanegol yn rhannu ei farn; ac ni fyddai'r miloedd hynny o bobl hŷn sydd wedi elwa ar y dull mwyaf blaengar o sicrhau bod pobl yn gallu cadw eu hasedau pan fyddan nhw'n mynd i ofal preswyl ychwaith, na'r bobl hynny sydd wedi elwa ar y gronfa driniaethau newydd, gan leihau'r amser yn aros am gyffuriau newydd yma yng Nghymru o 90 diwrnod i 13 diwrnod. Mae'r rheini yn wahaniaethau gwirioneddol ym mywydau pobl go iawn ar hyd a lled Cymru. Dyna yr wyf i'n sefyll drosto. Dyna mae'r Blaid Lafur yn sefyll drosto. Efallai y byddai'n well ganddo fe wacterau annibyniaeth a syniadau chwyddedig eraill. Byddwn ni'n ymdrin â'r pethau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, a dyna pam maen nhw'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn Llywodraeth sydd ar eu hochr nhw.
Prif Weinidog, nid fy safbwyntiau i yw'r sylwadau yr wyf i newydd eu darllen—safbwyntiau rhywun a oedd yn gyfarwyddwr anweithredol o'ch Llywodraeth am bron i ddegawd ydyn nhw. Mae'n anodd dod o hyd i gyhuddiad mwy damniol na'r datganiad hwn ganddo am y profiad hwnnw:
Nid wyf i erioed wedi bod yn rhan o Fwrdd â'r fath ddiffyg mesurau o gynnydd neu lwyddiant canlyniadau.
Rydych chi'n ymgyrchu mewn barddoniaeth ac yn llywodraethu mewn rhyddiaith, yn ôl y dywediad, ond rydych chi'n cyflawni mewn rhifau, oherwydd, heb fetrigau, rydych chi heb lyw ac yn ddigyfeiriad, ac mae hynny yr un mor wir am eich gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, Prif Weinidog, ag y mae am eich cyflawniad yn y gorffennol. Dyma oedd gan Lafur Cymru ar lawr gwlad i'w ddweud am eich cynigion polisi ar gyfer yr etholiad ym mis Mai: mae diffyg min trawsnewidiol iddyn nhw, maen nhw'n ochelgar ac yn ddi-fflach, maen nhw'n:
methu ag ymateb i faint yr heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Gallwch ddiystyru fy meirniadaethau i o'ch Llywodraeth, Prif Weinidog, ond a allwch chi ddiystyru geiriau'r union bobl sy'n ymgyrchu i'ch rhoi chi yn y swydd yr ydych chi ynddi ar hyn o bryd?
Wel, Llywydd, bydd ein cynigion ar gyfer tymor nesaf y Senedd yn cael eu cyhoeddi ym maniffesto'r Blaid Lafur. Pan fydd yr Aelod wedi ei weld, bydd yn gallu llunio barn arno. Nid yw wedi ei weld; nid yw'r bobl y mae'n ymddangos ei fod yn eu dyfynnu wedi ei weld ychwaith.
Wel, mae'r ymgyrchwyr Llafur yr wyf i wedi eu dyfynnu yn feirniadol o ddogfen bolisi derfynol eich plaid, yr wyf i wedi ei gweld, oherwydd nad yw'n ymrwymo i ymestyn prydau ysgol am ddim—yr union bolisi yr ydych chi wedi bod yn ymosod arnaf i yn ei gylch dros yr wythnosau diwethaf hyn. Mae'n ymddangos fy mod i'n nes at werthoedd Llafur nag ydych chi erbyn hyn.
Prin yw'r syniadau newydd y mae'r ddogfen yn eu cynnwys, ond rhai cyfaddefiadau newydd o leiaf. Ynddo, tynnodd aelodau'r Blaid Lafur, a dyfynnaf, sylw at yr angen am fuddsoddiad a newid polisi i feithrin mwy o gadernid yn erbyn digwyddiadau tywydd garw, sy'n gyfaddefiad mwy eglur nag a gawsom ni erioed gan Weinidogion eich bod chi wedi methu â gwario digon ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, gyda chanlyniadau trychinebus. Mae'n anodd anghytuno ag aelodau Llafur pan fyddan nhw'n galw yn y ddogfen am fwy o fanylion am weledigaeth Llafur ar gyfer dyfodol ffermio, pan mai eich gweledigaeth ar hyn o bryd yw dim dyfodol o gwbl. Ond efallai mai'r frawddeg fwyaf trawiadol ohonynt i gyd yw hon: mae'r cynnig o ofal cymdeithasol am ddim ar y pwynt angen—polisi arall gan Blaid Cymru—yn ddymunol. Y cwestiwn yw, Prif Weinidog: a fydd hynny byth yn cael ei gyflawni gyda chi a'ch plaid wrth y llyw?
Wel, Llywydd, rwyf i wedi cynnig cyfle o'r blaen i'r Aelod gael ffurflen aelodaeth ar gyfer y Blaid Lafur, y mae'n cymryd cymaint o ddiddordeb ynddi, oherwydd, pe byddai'n gwneud hynny, byddai'n fwy cyfarwydd â phrosesau llunio polisi fy mhlaid. Felly, nid yw fy mhlaid wedi cwblhau ei phroses llunio polisi. Nid oes dogfen derfynol, y mae'n cyfeirio ati yn anghywir. Yn wir, rwyf i'n edrych ymlaen at dreulio dydd Sadwrn gydag aelodau o'm plaid yn edrych ar tua 700 o wahanol gynigion y mae unedau'r blaid ledled Cymru gyfan wedi eu cyfrannu at gamau olaf ein proses llunio polisi. Mae'r Aelod, mae arnaf ofn, wedi cael ei gamarwain wrth gredu ei fod yn deall y ffordd y mae'r Blaid Lafur yn gweithredu. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein polisïau. Byddwn yn eu rhoi nhw mewn maniffesto. Bydd ein maniffesto yn faniffesto y gellir ei gyflawni. Ni fydd yn rhestr o ddymuniadau heb ei chostio o'r math y mae ef wedi treulio misoedd lawer yn ei datblygu erbyn hyn—gofal cymdeithasol heddiw; cannoedd o filiynau o bunnoedd yn rhagor nad oes ganddo i'w gwario—byth ymgais i ddweud wrthym ni o ble y bydd yr arian hwnnw yn dod, wrth gwrs, yn dilyn rhestrau dymuniadau yr wythnosau diwethaf o ran pethau eraill y mae'n ei gredu, dim ond trwy eu siglo o flaen llygaid pobl, y bydd yn eu perswadio nhw i'w cefnogi. Mae'r cyhoedd yng Nghymru, yn anffodus iddo ef, yn fwy craff nag y mae'n rhoi clod iddyn nhw ar ei gyfer. Byddan nhw'n gwybod, pan fydd addewidion yn cael eu gwneud, bod yn rhaid dod o hyd i'r modd i'w cadw nhw hefyd. Dyna pam, yn ddiweddarach y prynhawn yma, y byddwn ni'n dangos bod yr addewidion a wnaed gan fy mhlaid i yn yr etholiad diwethaf wedi cael eu cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon. Dyna y mae pobl yn ei ddisgwyl, nid y math o lunio polisïau ffantasi y mae'r Aelod yn parhau i'w gynnig i ni yn y fan yma.
Trown at arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, hoffwn roi sylw i fater amseroedd aros yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli bod pwysau ar amseroedd aros ledled y Deyrnas Unedig ond, yng Nghymru, er enghraifft, maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gyda 530,000 o gleifion ar restr aros i ddechrau triniaeth—yr uchaf erioed ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn y fformat hwn ers 2011. Mae 231,000 o'r cleifion hynny wedi bod yn aros 36 wythnos neu fwy. Mae hynny yn gynnydd o bron i 1,000 y cant ers mis Tachwedd 2019, pan yr oedd 22,000 o gleifion yn aros am dros 36 wythnos. A rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, roedd 20,000 yn llai o atgyfeiriadau canser brys o'i gymharu â'r un adeg yn flaenorol yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hyn yn destun pryder mawr rwy'n credu y byddwch chi'n cytuno, Prif Weinidog, felly pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn yma yng Nghymru?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod amseroedd aros yn y GIG yn destun pryder gwirioneddol flwyddyn ar ôl dyfodiad y coronafeirws, ac mae e'n iawn bod honno yn sefyllfa gyffredin ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Y peth cyntaf y mae'n rhaid i ni ei wneud, a'r peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud, yw tynnu allan o'r gwasanaeth iechyd y baich y mae'n rhaid iddo ei ysgwyddo ar hyn o bryd o bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws i'r fath raddau fel bod yn rhaid eu trin nhw y tu mewn i'r ysbyty, gyda'r holl effeithiau y mae hynny yn eu cael ar allu'r gwasanaeth iechyd i gyflawni'r holl bethau eraill yr ydym ni yn disgwyl yn gwbl briodol iddo eu gwneud.
Ac yn hynny o beth, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, rydym ni'n llwyddo ar hyn o bryd—cyfraddau positifrwydd i lawr yng Nghymru eto heddiw; y cyfraddau fesul 100,000 i lawr ledled Cymru eto heddiw. A'r wythnos hon rwy'n meddwl, am y tro cyntaf, gallwn weld gyda chryn hyder bod bwydo i mewn i leihad i bwysau yn y system ysbytai—am y tro cyntaf ers wythnosau lawer, llai na 1,000 o gleifion â coronafeirws wedi'i gadarnhau mewn gwely ysbyty, a nifer y bobl sydd angen gofal dwys wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnos ddiwethaf hefyd.
Dyna'r sefyllfa sylfaenol y mae'n rhaid i ni ei chyrraedd er mwyn ail-greu'r gwasanaeth iechyd ar gyfer y dyfodol, ac yna pan fyddwn ni'n siŵr y gallwn ni greu'r capasiti hwnnw drwy fod â COVID-19 o dan reolaeth, yna bydd gan y gwasanaeth iechyd gynllun, a bydd y cynllun yn seiliedig ar flaenoriaethu clinigol. Bydd yn gynllun a arweinir gan glinigwyr, gan wneud yn siŵr y bydd y rhai y mae eu hanghenion fwyaf brys bob amser ar flaen y ciw yng Nghymru.
Prif Weinidog, mae'n ffaith, fel y nodais yn fy sylwadau agoriadol, bod amseroedd aros yn faith ledled y Deyrnas Unedig—rwy'n derbyn hynny—ond yma yng Nghymru maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gydag un o bob pump o bobl ar restr aros o'r boblogaeth gyfan. A lle mae fy mhryder yn dod i'r amlwg yn y fan yma yw'r brys y mae'r Llywodraeth yn ei neilltuo i hyn i gael cynllun adfer allan o COVID. Pan fo gennych chi brif weithredwr Gofal Canser Tenovus yn dweud eu bod nhw wedi wynebu gwrthwynebiad gan Weinidogion o ran cynlluniau adfer ar gyfer gwasanaethau canser, a'r adroddiad a nododd Cymorth Canser Macmillan yr wythnos diwethaf bod 3,500 sydd â chanser heb gael diagnosis oherwydd y coronafeirws, mae hyn yn sicr yn bryder enfawr i bob un ohonom ni, oherwydd yr effaith niweidiol y mae hyn yn ei chael ar ganlyniadau, a'r pwysau tymor hwy ar y gwasanaeth iechyd.
Felly, pam mae'r elusennau canser yn dweud eu bod nhw'n wynebu gwrthwynebiad gan Weinidogion pan ddaw'n fater o roi cynllun canser brys ar waith, ac, os nad yw'r gwrthwynebiad hwnnw yn bodoli, a wnewch chi ymrwymo i ddatblygu'r cynllun canser hwnnw y mae ei angen ar frys, fel y nododd Tom Crosby—arweinydd canser Cymru—y bydd yn rhaid i'r gwasanaethau canser yng Nghymru gyflawni ar 120 y cant i 130 y cant o'u capasiti i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn yr ydym ni'n eu hwynebu yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno bod yr her sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ar ôl coronafeirws yn real iawn, na fydd yn adferiad a fydd yn digwydd dros nos, ac rwy'n cytuno y bydd angen iddo fod yn adferiad sydd wedi'i gynllunio yn briodol, ac sydd wedi'i gynllunio gyda chlinigwyr. Nid oes unrhyw wrthwynebiad gan y Llywodraeth hon o ran gwneud yn siŵr bod ein gwasanaeth iechyd mewn sefyllfa i adfer. Ceir deialog, ac mae deialog yn golygu y bydd safbwyntiau sy'n cystadlu a gwahanol bwysau. Nawr, mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn sgwrsio â buddiannau ym maes canser yn ddiweddar iawn er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw, fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma gan Rhianon Passmore. Mae gwasanaethau canser wedi cael eu dosbarthu fel gwasanaeth hanfodol gan Lywodraeth Cymru drwy'r pandemig cyfan. Mae'n rhaid i ni wneud mwy i roi'r hyder i gleifion, weithiau, i ddod ymlaen a chael triniaeth pan fyddan nhw'n ofni lefel y coronafeirws sydd mewn cylchrediad. Ac ategaf farn y Gweinidog iechyd, yr wyf i wedi ei glywed yn ei fynegi yn ddiweddar iawn, sef, pan fo gan bobl driniaethau ar gael iddyn nhw, yn enwedig pan fo angen y triniaethau hynny ar frys, ein bod ni'n annog y bobl hynny i ddod ymlaen, oherwydd mae ein gwasanaeth iechyd wedi trefnu ei hun i wneud yn siŵr y gellir darparu'r triniaethau hynny yn ddiogel ac yn llwyddiannus.
Yn anffodus, yn yr ateb yna, Prif Weinidog, ni chlywais i chi yn nodi'r cynllun ar gyfer datblygu gwasanaethau fel y gallan nhw ymgysylltu â rhai o'r 3,500 o bobl hynny nad ydyn nhw wedi cael diagnosis, yn ogystal â datblygu gwasanaethau ledled Cymru i ymateb i her yr amseroedd aros a gyfeiriais atoch chi yn fy nghwestiwn cyntaf. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd aros yn broblem cyn y pandemig, pan roedd dwywaith cymaint o gleifion yn aros dros flwyddyn nag yng ngweddill Lloegr gyfan. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n deall lefel y gweithgarwch sy'n digwydd yn y GIG ar hyn o bryd. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'r data gweithgarwch sydd gan Lywodraeth Cymru ar lawdriniaethau yn y GIG yma yng Nghymru, ac a wnewch chi hefyd ymrwymo i gynnull bwrdd adfer cenedlaethol o'r proffesiynau i wneud yn siŵr, gan weithio gyda Gweinidogion y Llywodraeth, y gall cleifion a chlinigwyr yn y gwasanaeth iechyd fod yn ffyddiog bod y cynlluniau hyn yn cael eu datblygu ac y byddan nhw'n cael eu gweithredu fel na fyddwn ni'n parhau i gael adroddiadau fel adroddiad Macmillan yr wythnos diwethaf a nododd gymaint o achosion o ganser heb ddiagnosis ledled Cymru? Ac a allech chi ymrwymo i gyhoeddi eich ymateb i Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Lloegr, pan gynigiwyd cynnig cymorth ar y cyd ganddyn nhw i gefnogi unrhyw ymdrechion y gellid eu cyflwyno yma yng Nghymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros a mynd i'r afael â chael pobl drwy'r gwasanaeth iechyd?
Wel, Llywydd, mae'r pwynt olaf yn dipyn o lol, onid yw e? Rydym ni'n cyhoeddi ffigurau yn fisol. Anfonwyd y cynnig honedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol atom ar yr union adeg pan gafodd ysbytai Lloegr eu llethu gan lefel y coronafeirws yr oedden nhw'n ei wynebu. Nid oes unrhyw gynnig o gymorth ar y cyd mewn system lle mae ganddyn nhw ddwywaith lefel yr haint sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae wir—. A bod yn onest—a dweud y gwir, Llywydd, y cwbl yw hyn yw rhywfaint o chwarae gemau gwleidyddol ac mae'n tanseilio ymdrechion y rhai hynny ohonom ni sydd eisiau dull pedair gwlad o ddifrif i adfer yn sgil y pandemig hwn.
Rwyf i eisoes wedi cyflwyno'r cynllun, Dirprwy Lywydd. Rhan gyntaf y cynllun yw cael coronafeirws o dan reolaeth. Rwy'n sylwi, am yr ail wythnos yn olynol, nad oes yr un o ddau arweinydd y gwrthbleidiau eisiau gofyn unrhyw gwestiwn i mi am ran fwyaf hanfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru heddiw—y rhaglen frechu eithriadol o lwyddiannus yma yng Nghymru. Fel erioed, gyda'r gwrthbleidiau, pryd bynnag y bydd unrhyw beth yn mynd yn dda yng Nghymru, nid oes ganddyn nhw air da i'w ddweud amdano. Am bythefnos yn olynol, ni allen nhw ddod o hyd i unrhyw gwestiwn i'w ofyn am y llwyddiant ysgubol hwnnw. Bydd y llwyddiant hwnnw yn caniatáu i ni wneud yr hyn a esboniais i'r Aelod, sef ein helpu ni i reoli coronafeirws, i dynnu allan o'r gwasanaeth iechyd y pwysau y mae'n ei deimlo ar hyn o bryd wrth ymdrin â'r pandemig, ac yna adfer ac ailgyflwyno gwasanaethau y tu allan i coronafeirws ar sail angen clinigol. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei gynllunio gyda'r grwpiau proffesiynol yr ydym ni'n ddigon ffodus o'u cael yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'r gwaith difrifol, yn hytrach na'r dull bychan, sgorio pwyntiau o adfer y gwasanaeth iechyd, yn waith y gall pobl yng Nghymru fod yn siŵr y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud ar eu rhan.