Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 9 Chwefror 2021.
Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad ag etholwyr sydd wedi cael y brechlyn—brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca—a dau gwestiwn allweddol a godwyd gyda mi fu, yn gyntaf oll, ynglŷn â'r amseriad ar gyfer yr ail bigiad yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. A ydym ni'n hyderus y byddan nhw ar y trywydd iawn i dderbyn hwnnw yn yr amser sydd wedi'i ddynodi? A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â hynny? A hefyd o ran brechlyn AstraZeneca, a yw e'n ffyddiog na fydd amrywiolyn De Affrica ac amrywiolion eraill yn effeithio yn sylweddol ar effeithiolrwydd y brechlyn? Ac, os felly, a fyddai rhaglen ar gyfer rhoi pigiadau atgyfnerthu drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer pobl yn etholaeth Caerffili?