Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 9 Chwefror 2021.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolchaf i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig yna. O ran amseriad ail ddos y brechlyn, mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi i ddweud wrthyf i pa mor falch oedden nhw wrth iddyn nhw adael y ganolfan frechu torfol lle'r oedden nhw wedi cael eu pigiad cyntaf, eu bod wedi cael y dyddiad a'r amser ar gyfer iddyn nhw ddod yn ôl i gael eu hail frechiad. Rwy'n credu bod hynny wedi rhoi llawer o hyder iddyn nhw bod y system yma yng Nghymru eisoes wedi ei pharatoi ar gyfer yr hyn a fydd, Dirprwy Lywydd, yn her fawr dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, oherwydd, o hyn ymlaen, nid yn unig y byddwn ni'n cynnig brechiad cyntaf i bobl yn y gyfres nesaf o grwpiau blaenoriaeth, ond byddwn yn cynnig ail frechiad i bobl yr ydym ni eisoes wedi cynnig y cyntaf iddyn nhw wrth i ni gwblhau grwpiau 1 i 4. Mae honno yn her fawr. Ond fel yr ydych chi wedi gweld, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi ymateb yn wych i'r her gyntaf, ac rwy'n ffyddiog bod y cynlluniau ar waith i ganiatáu i'r ail ddos honno o frechlyn gael ei rhoi mewn pryd gyda'r cyngor sydd gennym ni gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
O ran effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca ar gyfer amrywiolyn De Affrica, mae llawer iawn o waith yn dal i gael ei wneud gan wyddonwyr i asesu'r effeithiolrwydd hwnnw, ac rydym ni'n cael cyngor yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy'r cymunedau gwyddonol hynny. Y ffordd orau o weithredu, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr nad yw amrywiolyn De Affrica mewn cylchrediad gennym ni yma yng Nghymru, ac mae ymdrech enfawr yn cael ei gwneud i wneud yn siŵr, yn y nifer fach honno o achosion a nodwyd, bod popeth yn cael ei wneud i atal trosglwyddo ymlaen.
Yr hyn y mae angen i ni ei weld, rwy'n credu, yw cyfres gryfach o amddiffynfeydd wrth ein ffiniau. Rhestr goch Llywodraeth y DU yw'r lleiaf posibl o ran yr hyn y mae angen ei wneud i wneud yn siŵr nad yw'r holl enillion sy'n cael eu gwneud o ran atal y feirws a brechu ein poblogaeth yn cael eu peryglu gan bobl yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig o rannau eraill o'r byd lle gallai amrywiolion newydd eraill eisoes fod yn cylchredeg. Felly, mae gwaith yn parhau ar effeithiolrwydd brechiad AstraZeneca, ond gellid gwneud mwy i liniaru'r risg y bydd yr amrywiolion newydd hynny yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig yn y lle cyntaf.