Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch am yr ateb hwnnw, ac er fy mod i'n croesawu uchelgais Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, rwy'n teimlo y byddai wedi bod yn well petaem ni wedi cymryd maes polisi cyhoeddus gwirioneddol bwysig ac wedi gweld rhywfaint o gynnydd sylweddol yn ystod y pumed Senedd, ac mae cyfraith tai yn faes allweddol lle gallem fod wedi gwneud hynny. Rwy'n credu ein bod ni wedi pasio pedwar Bil tai neu bedair Deddf tai. Ac a ydych chi'n rhannu fy siom i, am ba resymau bynnag, ac nid wyf yn rhoi bai yma, na fu'n bosibl efallai gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni wedi ei hoffi, o ystyried ein bod bellach wedi cael ein pwerau deddfu ers bron 10 mlynedd?