Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 9 Chwefror 2021.
Mae'r Senedd wedi gweld cyhoeddi adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar ffurf a hygyrchedd cyfraith Cymru, ymrwymiad y Llywodraeth hon i raglen atgyfnerthu a chodio, a chyflawni Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sy'n creu dyletswyddau newydd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo bellach ar y ddau Fil cydgrynhoi cyntaf, a fyddai ar gael i'r Llywodraeth yn y Senedd nesaf eu datblygu, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny, ynghyd â phrosiectau eraill i atgyfnerthu a chodio cyfraith Cymru.