Sylwebaeth ar Gyfraith Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:02, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Ac rwy'n croesawu'r ymdrechion sydd wedi'u gwneud, sydd, yn fy marn i, yn eithaf sylweddol. Ac a ydych chi'n cytuno â mi fod llenyddiaeth gyfreithiol o ansawdd da yn wirioneddol bwysig, nid yn unig i'r dinesydd gwybodus, ond i'r cyfreithwyr niferus ar y stryd fawr? Y nhw fydd yn bwynt cyswllt cychwynnol i'r bobl sydd ag ymholiad o ran cyfraith Cymru mewn meysydd gwasanaeth cyhoeddus allweddol, ac fe allan nhw gyfeirio pobl ac yna weld ble y gallai fod angen iddyn nhw ddatblygu mwy o wybodaeth a cheisio'r cyngor hwnnw, ac y gallan nhw, o leiaf, gael y math hwnnw o borth, a fydd yn rhoi lle da i gael crynodeb o'r gyfraith bresennol?