Sylwebaeth ar Gyfraith Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:03, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Ie, yn wir. Rwy'n cefnogi'r uchelgais hwnnw. Roeddwn i wedi gobeithio erbyn hyn gallu sicrhau y byddai gwefan Cyfraith Cymru, yn ei fformat newydd, yn fyw, a hefyd wneud mwy o gynnydd o ran cyhoeddi deddfwriaeth yn ddwyieithog ar wefan legislation.gov.uk. Cafodd y ddau brosiect hynny eu gohirio i raddau yn ystod yr ymateb i COVID, os dymunwch chi. Ond rydym ni wedi gwneud cynnydd o ran datblygu safle newydd Cyfraith Cymru. Roedd gwaith ar drosglwyddo cynnwys iddi ar y gweill pan oedd yn rhaid dargyfeirio adnoddau yn anffodus i fynd i'r afael â COVID. Ond rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn ni mewn sefyllfa'n fuan iawn i wneud hynny'n fyw, ac i hynny fod yn ffordd o ddenu sylwadau, gan ymarferwyr, ond hefyd gan gyrff eraill y diwydiant ynghylch eu safbwyntiau cyfreithiol. Mae'n hanfodol, fel y dywed, sicrhau bod y sylwebaeth gyfoethog honno ar y gyfraith yr ydym ni'n ei phasio ar gael ac ar gael yn rhwydd, i'r aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb, ond hefyd, yn bwysig iawn, i ymarferwyr a chyfryngwyr. Ac rwy'n gobeithio y bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny cyn diwedd tymor y Senedd.