Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 9 Chwefror 2021.
Mae lle i wella bob amser, ac edrychaf ymlaen at yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Yn sicr, nid oes unrhyw hunanfodlonrwydd gan ein timau brechu gwych ledled y wlad o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a'r hyn yr ydym ni'n credu y byddwn yn gallu ei wneud, ac y mae angen i ni ei wneud, yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
O ran y system apwyntiadau, rydym ni eisoes yn ystyried sut arall i ddefnyddio staff a gwirfoddolwyr, ac, yn wir, system archebu ar-lein, wrth i ni gyflwyno'r brechlyn i grwpiau ehangach o'r cyhoedd, i'w gwneud yn haws i bobl gael lle. Bydd angen i ni hefyd sicrhau y caiff yr ail frechlyn ei gyflwyno yn effeithiol ac yn effeithlon, gan barhau i roi nifer fawr o ddosau cyntaf hefyd.
O ran y cyflenwad brechlynnau, disgwyliaf y byddwn ni, ym mhob un o'r gwledydd yr wythnos hon, yn gallu cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth am y cyflenwad o frechlynnau a gafwyd eisoes, a fydd, gobeithio, yn tawelu meddwl yr Aelod am y gyfran yr ydym yn ei chael, ond hefyd am y defnydd yr ydym ni'n ei wneud o'r cyflenwad hwnnw hefyd. Mae wedi cymryd mwy o amser nag y byddwn i wedi dymuno, ond rydym ni, rwy'n credu, wedi cyrraedd sefyllfa lle y gall pob un o'r pedair Llywodraeth—ac, yn wir, y gweithgynhyrchwyr—fod â rhywbeth y gallwn ni i gyd ei ddarparu i roi'r eglurder y mae rhai pobl yn chwilio amdano.
O ran eich sylw am yr wybodaeth sydd gennych chi am feddyg teulu nad yw'n gallu derbyn hambwrdd llawn o'r brechlyn Pfizer ar hyn o bryd, mae'n gyfuniad o wahanol bwyntiau yn yr achos yma, rwy'n credu. Mae'n ymwneud â'r ffordd y cawn yr hambyrddau, a maint y rhai sydd ar gael, a sut y gellir ac na ellir eu torri'n llai. Y gwir amdani hefyd yw nad ydym ni mewn sefyllfa i greu'r seilwaith hwnnw ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli eich bod yn gofyn cwestiwn ar gyfer y dyfodol, ond mae'n gwestiwn ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, gyda'r nifer o flaenoriaethau y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw i gyflwyno'r rhaglen, rwy'n credu mai'r flaenoriaeth anghywir o ran yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud nawr yw meddwl sut y gallwn ni gael cyfleusterau storio a all gadw brechlynnau o dan 70 gradd canradd mewn practisau meddygon teulu lleol.
Mae'n rhaid inni feddwl am y gwersi yr ydym ni yn eu dysgu wrth inni fynd drwy'r pandemig, yn ogystal ag achosion yn y dyfodol, oherwydd mae'n gwbl bosibl y bydd pandemigau yn y dyfodol. Mewn sawl ffordd, roedd y DU yn ffodus gyda SARS gan na chyrhaeddodd SARS yma ac aros mewn niferoedd mawr. Roedd SARS hyd yn oed yn fwy angheuol o ran y gyfradd yr oedd yn ei ddal a'i gyfradd marwolaethau na'r pandemig presennol. Felly, rydym ni wedi bod yn hynod ffodus. Ond, oherwydd i SARS effeithio'n llawer mwy sylweddol ar rannau eraill o'r byd, bu'n rhaid iddyn nhw gael y trefniadau hynny ar waith. Nid oes gennyf amheuaeth, ar ddiwedd hyn, ym mhob gwlad yn y DU, y bydd gennym ni drefniadau gwahanol ar waith ar gyfer pandemigau yn y dyfodol, ac mae'n rhaid i hynny fod yn beth da i bob un ohonom ni.
O ran blaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, mae'n gwestiwn a ofynnir yn gyson. Yn wir, fe'i gofynnwyd yng nghwestiynau’r Prif Weinidog. Mae gennym ni restr o flaenoriaethau'r Cyd-bwyllgor sy'n ymwneud ag achub y nifer fwyaf o fywydau ag sy'n bosibl. Rydym ni wedi gofyn, ac mae gennym ni gynrychiolwyr sy'n edrych yn gyson ar dystiolaeth gan y Cyd-bwyllgor a'r cwestiynau sydd gennym ni. Rydym ni yn edrych nid yn unig ar 1 i 9, ond ar y cam nesaf hefyd, ac ar y ffordd yr ydym ni'n parhau i achub y nifer fwyaf o fywydau ag sy'n bosibl. Mae'r cyngor hwnnw, ar hyn o bryd, yn rhoi ein grwpiau blaenoriaeth presennol inni. Dyna'r hyn yr ydym ni'n gweithio drwyddo ar gyflymder aruthrol, a byddwn yn parhau i wneud hynny.