4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:37, 9 Chwefror 2021

Buaswn innau'n licio diolch i bob un sy'n ymwneud â'r broses frechu yng Nghymru, sy'n amlwg ar y trywydd iawn ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Mi fues i draw yn y ganolfan frechu yn Ysbyty Enfys Bangor ddoe ar wahoddiad y bwrdd iechyd, ac mae'n ddefnyddiol gallu gweld drosom ni'n hunain er mwyn gallu cysuro pobl sy'n dal, o bosib, yn bryderus ynglŷn â'r broses. Ond mae'n drawiadol iawn, nid yn unig pa mor llyfn ac effeithiol ydy'r system, ond pa mor ymroddedig hefyd ydy'r staff sydd yn rhan o'r broses, ac rydyn ni gyd, dwi'n gwybod, yn ddiolchgar iddyn nhw.

Roeddwn i'n falch o glywed heddiw y bydd newid i'r system trefnu apwyntiadau, lle bydd pobl yn cael eu hannog, ar hyn o bryd y rhai dros 70 oed, i ffonio os ydyn nhw ddim wedi cael apwyntiad. Mae yna broblem o hyd efo'r system—[Anghlywadwy.]—a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn gallu cydnabod hynny. Un ateb dwi wedi'i drafod yn lleol ydy'r angen am ragor o wirfoddolwyr i wneud y gwaith o ffonio i ofyn i bobl ddod i mewn. Mae yna waith yn digwydd o fewn y bwrdd iechyd yma yn y gogledd i greu'r fyddin yma o wirfoddolwyr. Ond pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn gallu'i chynnig ar lefel genedlaethol i sicrhau bod yna'r bobl yna ar gael i wneud y gwaith trefnu apwyntiadau, achos mae hynny'n mynd i fynd yn fwy a mwy dwys, wrth gwrs, wrth i ni estyn allan at wahanol grwpiau o bobl i gael eu brechu?

Dwi'n gofyn unwaith eto am y data llawn. Mae o yn bwysig, dwi'n meddwl, cael y data llawn ynglŷn â dyraniad y brechlyn i wahanol wledydd y Deyrnas Unedig ac wedyn o fewn Cymru, a'r gwahanol fathau o frechlyn hefyd. Un peth ydy dweud bod yna wybodaeth o sensitifrwydd masnachol, ond peth arall ydy cael clywed gan y Llywodraeth nad ydyn nhw'n gwybod faint sy'n cael ei ddyrannu i bob gwlad. Byddwn i'n awgrymu bod angen ichi fod yn gwybod hynny.

Eto, dwi'n gofyn hefyd am fuddsoddiad rŵan, neu ddechrau buddsoddi a chynllunio ar gyfer buddsoddi, yn yr isadeiledd sydd ei angen er mwyn delio â'r mathau newydd o frechiadau mRNA yma. Dwi ddim eisiau clywed am feddyg teulu, fel dwi wedi clywed, sy'n gwrthod tre o Pfizer oherwydd nad ydy o'n gallu delio efo'r 1,000 o ddosys, a'r diffyg isadeiledd yna oedd yn ei gwneud hi'n anodd i'r meddyg teulu yna dderbyn y tre yna yr oedd o eisiau gallu ei dderbyn. Felly, gadewch i ni weld y cynllun ar gyfer creu system iechyd a system frechu yng Nghymru sydd yn gallu ymdopi efo'r dechnoleg newydd yma o frechlyn.

Yn olaf, rŵan ein bod ni'n gweld tystiolaeth bositif iawn fod y brechiadau yn rhoi cryn warchodaeth, mae'n ymddangos, yn erbyn trosglwyddiad y feirws, onid ydy hi wir yn dod yn amser i edrych eto ar y rhestr o flaenoriaethau gan y JCVI a dod â phobl fel gweithwyr mewn ysgolion, gwasanaethau brys a thrafnidiaeth gyhoeddus i mewn i'r system yn gynharach yn hytrach na'n hwyrach, fel modd torri dolen drosglwyddiad o un person i'r llall? Rydyn ni mewn lle da, ond fel rydyn ni'n ei ddweud yn Gymraeg, nid da lle gellir gwell.