Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 9 Chwefror 2021.
Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd. Rwy'n agor fy natganiad. Dyma ni. Doeddwn i ddim wedi cofio'r cyfan ohono eto.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw rydym ni wedi cyhoeddi'r trydydd adroddiad sy'n crynhoi cynnydd o ran ein strategaeth frechu COVID-19 genedlaethol. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn bob dydd Mawrth, yn ogystal â'r data gwyliadwriaeth a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn feunyddiol ac yn wythnosol, a'r data gweithredol a gyhoeddir gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd am hanner dydd heddiw, mae'r rhaglen frechu a arweinir gan GIG Cymru bellach wedi brechu mwy na 628,000 o bobl ledled Cymru gyda'u dos cyntaf. Mae hynny yn ei hanfod yn un o bob pump o'r boblogaeth, ac mae dros 80 y cant o'r rheini wedi'u cynnwys yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Dros yr wythnos diwethaf, brechodd ein timau rywun yng Nghymru bob pedair eiliad. Roeddem yn disgwyl cyfnod pellach o weithgarwch dros yr wythnos diwethaf. Rwy'n falch o ddweud bod hynny wedi digwydd a bod y data cyhoeddedig yn tystio i hynny.
Dydd Gwener, 5 Chwefror oedd trigeinfed diwrnod y rhaglen frechu, a dyma hefyd oedd y diwrnod pan gyrhaeddodd nifer y bobl a gafodd eu dos cyntaf o'r brechlyn yng Nghymru y marc 0.5 miliwn. Rhagorodd GIG Cymru hefyd ar y nifer beunyddiol o frechiadau a gofnodwyd ar ddau ddiwrnod yn olynol sef ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Rhoddwyd mwy na 30,000 o frechlynnau ar y ddau ddiwrnod, gyda bron i 34,000 yn cael eu cofnodi ddydd Sadwrn yn unig. Mae hynny'n golygu ar gyfer dydd Gwener a dydd Sadwrn, y gwnaethom ni frechu 1 y cant o boblogaeth Cymru bob dydd.
Mae'r rhaglen frechu yn parhau i fynd o nerth i nerth. Erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, roeddem ni wedi brechu cyfran fwy o'r boblogaeth gyfan nag unrhyw ran arall o'r DU. Mae hynny'n dal yn wir heddiw gyda'r ffigurau sydd newydd gael eu rhyddhau. Yr wythnos diwethaf, nid yn unig yr oeddem ni yn brechu mwy o bobl bob dydd fel canran o'n poblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU, ond bryd hynny roeddem ni yn drydydd yn y byd, y tu ôl i'r Emiraethau Arabaidd Unedig ac Israel yn unig. Mae hynny'n gyflawniad gwych ac yn tystio i ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig—ein GIG, llywodraeth leol, y fyddin a'r holl wirfoddolwyr.
Fe wnaethom ni ddarparu mwy o frechlynnau i fyrddau iechyd nag ar unrhyw wythnos arall, a phobl yn cael eu brechu mewn 493 o leoliadau ledled Cymru. Rydym ni yn symud ymlaen yn dda drwy'r carfannau blaenoriaeth, ac rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni yn unol â'r garreg filltir fawr gyntaf honno yn unol â'n cynllun cenedlaethol. Disgwyliwn fod wedi cynnig y brechlyn i bawb yng ngharfannau 1 i 4 erbyn diwedd yr wythnos hon.
Hyd yn hyn, buom yn gofyn i bobl aros nes i'r GIG gysylltu â nhw. Fodd bynnag, wrth i gyflymder ein rhaglen frechu gynyddu, mae ein byrddau iechyd yn dechrau gofyn i bobl dros 70 oed gysylltu os na wahoddwyd nhw i gael eu brechu, ond dim ond pobl dros 70 oed yw hynny. Byddwn yn cyfleu'r trefniadau ar gyfer hyn dros yr wythnos nesaf drwy ein byrddau iechyd. Mae'n ddrwg gennym, byddwn yn cyfleu hyn drwy ein byrddau iechyd dros y dyddiau nesaf. Rhan allweddol o hyn i ni yw sicrhau na chaiff neb ei hepgor.
Yr wythnos hon, rydym ni hefyd wedi gweld mwy o newyddion da am y brechiadau. Rhyddhaodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y rheoleiddiwr annibynnol, ymchwil yn dangos bod y brechlynnau presennol yn ddiogel dros ben, gyda dim ond sgil effeithiau ysgafn a disgwyliedig. Hefyd, mae astudiaeth ar frechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn awgrymu y gallai arwain at ostyngiad sylweddol yn y lledaeniad, yn nhrosglwyddiad y feirws, ac arhosodd yr amddiffyniad hwnnw ar 76 y cant yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl y dos cyntaf, a chododd i 82 y cant ar ôl yr ail ddos.
Rwy'n hynod falch o'n cydweithwyr yn y GIG ledled Cymru, ac yn ddiolchgar am eu gwaith caled diflino nhw a'u partneriaid i gynnal cyflymder ein rhaglen frechu. Marathon yw hon mewn gwirionedd, ond rydym ni wedi dechrau'n wych. Gobeithio y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn rhannu'r ymdeimlad hwnnw o falchder yn ein cyflawniadau cenedlaethol. Diolch, Dirprwy Lywydd.