Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd eisiau diolch ar goedd i bob un o'r timau o frechwyr, a phawb sy'n ymwneud â'r cyflwyno ledled Cymru. Mae'r niferoedd wedi cynyddu wythnos ar ôl wythnos bellach, ac mae'n braf gweld cynnydd o ran y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn yr ymgyrch. Ac mae'r sylw yr ydych chi'n ei wneud ynghylch 60 diwrnod ers dechrau'r rhaglen frechu yn dangos yn glir pa mor addas a phriodol oedd hi i Lywodraeth y DU weithredu ar ei phen ei hun a phrynu brechlynnau'n gynnar, i ganiatáu inni fod yn rhan o'r ymgyrch a dechrau brechu pobl ledled y Deyrnas Unedig, ond yn enwedig yma yng Nghymru.
Hoffwn ofyn cyfres o gwestiynau, os caf i, Gweinidog. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith sy'n digwydd gyda'r gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Codais y mater hwn ynglŷn â phetruster ynghylch cael y brechlyn mewn rhai carfanau o bobl ledled Cymru, yn seiliedig ar dystiolaeth y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a ddangosodd amharodrwydd o 70 y cant i 75 y cant gan rai carfanau ynglŷn â bod yn rhan o'r rhaglen frechu. Mae'n bwysig iawn y caiff unrhyw gamddealltwriaeth neu straeon ffug sy'n lledaenu eu chwalu yn gynnar iawn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ein goleuo gyda mwy o wybodaeth ar ôl i mi grybwyll hyn i chi pan oeddwn yn llefarydd iechyd y grŵp Ceidwadol fis yn ôl.
A wnewch chi hefyd dynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud yn enwedig gyda'r ail ddos o frechlynnau, brechu, a rhoi gwybod i bobl am y broses galw'n ôl am yr ail ddos o frechlynnau, oherwydd ym mis Mawrth bydd hynny yn rhan fawr o'r rhaglen ac mae'n bwysig bod y ddwy elfen yn cyd-redeg heb unrhyw darfu? Gobeithio y cytunwch â hynny, Gweinidog.
A allwch chi hefyd amlinellu'r cyngor sy'n cael ei roi gan Lywodraeth Cymru o ran y garfan 70 i 74 oed? Yn sicr, mae gennyf dystiolaeth y caiff y garfan honno ei chyfeirio at y canolfannau brechu torfol yn hytrach nag, yn amlwg, cael y brechlyn yn y meddygfeydd, a phan gaiff y meddygfeydd teulu eu herio yn hyn o beth, maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw'r cyngor a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i gyfeirio pobl at y canolfannau brechu torfol. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall sut y mae'r cyngor hwnnw wedi'i ddosbarthu, oherwydd yn sicr i unigolion sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain yn y garfan honno—. Mae gennyf etholwyr sydd wedi crybwyll problemau o ran eu hatgyfeirio.
Yn benodol, byddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch ynghylch plant ag anableddau dysgu ac yn benodol am geisio blaenoriaethu'r brechlyn i'r rhai sy'n gyfrifol am ofalu am blant ag anableddau dysgu. Rwy'n sylweddoli bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at hyn, a'r dystiolaeth y mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn gweithio ar ei sail yw argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, ond a ydych chi wedi holi'r pwyllgor am eglurhad ynglŷn â'r dystiolaeth y mae wedi'i rhoi i chi a'r cyngor y mae wedi'i roi i chi o ran grwpiau, yn enwedig pan soniwn ni am anableddau dysgu ac yn benodol sut y maen nhw'n fwy tueddol o fod yn agored i'r feirws? Rwy'n credu bod hynny'n ystyriaeth bwysig wrth ystyried y cyngor y maen nhw'n ei roi.
A allwch chi gadarnhau hefyd na fydd unrhyw darfu ar gyflenwadau o gwbl oherwydd bod y sylfaen gyflenwi bellach wedi ei ailsefydlu oherwydd y diffyg a fu gyda chynnal y brechlyn Pfizer rai wythnosau'n ôl? Byddai eich dealltwriaeth yn goleuo barn pobl yn fawr am unrhyw broblemau cyflenwi posibl a allai fod yn y system, oherwydd mae gennyf lythyr yn y fan yma gan feddygfa a eglurodd y dywedwyd wrthynt y gallai fod oedi wrth gyflenwi brechlynnau yr wythnos yn dechrau ar 15 Chwefror. Nid wyf yn gofyn i chi wneud sylwadau penodol ar y mater penodol hwnnw, ond byddwn yn ddiolchgar o ddeall y mater mwy cyffredinol ynghylch cyflenwi brechlynnau i Gymru. Diolch, Gweinidog iechyd.