Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch am gydnabod cyflymder a graddfa sylweddol y gwelliant dros yr wythnosau diwethaf yn y rhaglen. Mae mwy i'w wneud bob amser, ond rwy'n credu y gall pawb ymfalchïo yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ledled y wlad.
O ran eich sylw am gyfraddau heintio'r dyfodol, ni ddarperir amddiffyniad llawn tan rai wythnosau ar ôl i'r pigiad cyntaf gael ei ddarparu, ac yna dylai'r ail ddos roi mwy fyth o ddiogelwch, ond hirhoedledd hefyd. Y gwir amdani yw na fyddwn yn gwybod mwy am hynny nes ein bod mewn gwirionedd mewn cyfnod o wyliadwriaeth a deall beth sy'n digwydd wedyn gyda'r boblogaeth. Dyna pryd y byddwn yn gwybod mwy am drosglwyddo, yn ogystal ag amddiffyn tymor hwy, a fydd angen i ni gael rhaglenni brechu yn y dyfodol, ac, o bosibl, amlder y rheini hefyd. Mae amrywiaeth o bethau anhysbys o hyd, ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw bod y brechlynnau sydd gennym ni yn effeithiol, maen nhw yn ddiogel, a dylai pawb fanteisio ar y cyfle i gael eu brechlyn pan gânt eu cynnig gan ein GIG.
O ran a ydym ni wedi dal i fyny â Lloegr ynghylch 1 i 4 a'ch cwestiwn ynghylch a yw'r gyfran o'r boblogaeth neu a yw'r sylfaen angen o fewn y grwpiau blaenoriaeth yn rheoli'r cyflenwad, gwnaed dewis pragmatig rhwng y pedwar Gweinidog iechyd yn y DU mai cyfran poblogaeth oedd y ffordd daclus a chyflymaf o sicrhau bod brechlynnau'n cael eu dosbarthu. Yna, cyflwynodd Prif Weinidog y DU darged gwahanol a oedd wedyn yn ailamlygu bod canrannau gwahanol o'r boblogaeth o fewn y grwpiau blaenoriaeth hynny. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda Nadhim Zahawi am y realiti fod hynny'n newid y darlun, ac yna mae angen sicrwydd arnom ni wedyn y bydd gennym ni gyflenwad digonol yn dod i Gymru i ddiwallu anghenion grwpiau blaenoriaeth 1 i 4. Rydym ni yn credu y bydd gennym ni gyflenwad digonol, ond nid ydym ni wedi gweld cynnydd yn ychwanegol at ein cyfran Barnett o ran poblogaeth. Mae hynny'n golygu ein bod yn credu y bydd gennym ni ddigon i gwmpasu grwpiau 1 i 4, ond mae'n rhaid i'r rhaglen yng Nghymru fod hyd yn oed yn fwy effeithlon na rhaglenni yng ngweddill y DU i gyrraedd y targed hwnnw, o ran nodi a gwahodd pobl yn briodol yng ngrwpiau 1 i 4 i ddod ymlaen, yn ogystal â'i gyflawni, yn ogystal â rheoli'r sefyllfa a sicrhau bod gennym ni ychydig iawn o wastraff hefyd. Gallwn wneud hynny, a dyna pam yr wyf yn credu bod gennym ni rywfaint o ffydd y byddwn yn cyrraedd y garreg filltir honno o ran grwpiau 1 i 4.
O ran y cwestiwn am bobl dros 80 oed, credaf ein bod wedi ateb y cwestiwn hwn droeon. Ni chyraeddasom y garreg filltir i bobl dros 80 oed ar y pryd, pan oeddem yn disgwyl gwneud hynny, ond erbyn hyn rydym ni wedi cyrraedd 86.1 y cant o bobl dros 80 oed, ac roedd y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn 79 y cant ar gyfer pobl 75 i 79 oed. O ran cartrefi gofal pobl hŷn, rydym ni wedi cwblhau 679 allan o 691. Yn llythrennol, mae llond llaw o gartrefi gofal pobl hŷn ar ôl, a hynny oherwydd y bu'r haint ar led ynddyn nhw. Felly, rydym ni'n gwneud yn hynod o dda. O ran y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw—fe wnaethoch chi holi am ein cymariaethau â Lloegr ac eraill, a sut y mae dydd Sul a dydd Llun yn cymharu; rydym ni wedi cyhoeddi'r ffigurau hynny. Fesul cyfran o'r boblogaeth, mae Cymru bellach wedi brechu 19.9 y cant, yn Lloegr y ffigur yw 19.1, yn yr Alban mae'n 17 y cant. Nid yw'r ffigurau yng Ngogledd Iwerddon ar gael eto. O ran y boblogaeth dros 16 oed, mae Cymru wedi brechu 24.3 y cant, Lloegr 23.7 y cant a'r Alban 20.4 y cant. Felly, ym mhob un o'r mesurau hynny, mae gennym ni gyfradd gyflawni uchel o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU. Ond, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i ni barhau â'r gwaith cyn gynted â phosibl hyd nes caiff y frwydr yn erbyn y feirws ei hennill.
O ran cyfathrebu ledled y DU, byddai bob amser yn ddefnyddiol pe gallem ni gael sgwrs tymor hwy ac un am wybodaeth ymlaen llaw yn hytrach na gorfod ymateb i ddatganiadau a wneir mewn rhannau eraill o'r DU, ond mae hynny, fel arfer, yn waith sy'n mynd rhagddo.