Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 9 Chwefror 2021.
Gweinidog, da iawn chi am berfformiad trawiadol iawn dros yr wythnosau diwethaf. Rydych chi a phawb sy'n gweithio yn rhan o hyn wedi ymdrin â'r bwlch gyda chyfraddau brechu o gymharu â Lloegr y beirniadais i chi amdano o'r blaen, a chredaf y dylwn gydnabod pa mor dda y bu pethau dros y pythefnos diwethaf. Felly, da iawn chi. Oherwydd, ar gyfartaledd, mae pobl wedi cael eu brechu'n ddiweddarach yng Nghymru, oherwydd y dechrau arafach cynharach, a fydd hynny'n arwain at unrhyw un yn cael ei heintio neu o bosibl yn gorfod mynd i'r ysbyty neu'n waeth oherwydd y dechrau araf hwnnw? Neu a ydych chi'n credu bod unrhyw effaith o hynny bellach wedi'i dadwneud?
A ydych chi'n dweud eto ein bod wedi dal i fyny â'r sefyllfa oedd ohoni yn Lloegr o ran canran y grwpiau 1 i 4 mwyaf agored i niwed? Rydym ni wedi trafod o'r blaen fod gennym ni yng Nghymru strwythur oedran mwy oedrannus. Felly, a yw'r un canrannau wedi'u brechu eto yn y grwpiau mwyaf agored i niwed hynny? A ydych yn cael cyfran o'r boblogaeth yn unig o ran cyflenwad o'r DU, neu a oes cydnabyddiaeth yn hytrach yn y cyflenwad o'r gyfran uwch honno o bobl oedrannus, fel y gallwn ni nawr gael ychydig mwy na hynny?
Diolch am yr adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw. Wrth edrych drwy hwnnw, rydych chi'n siarad am gyflawni'r nodau a'r cerrig milltir. Rydych chi'n cyfeirio at dri nod drwy fis Ionawr ar gyfer staff ambiwlans, cartrefi gofal a darparu i feddygon teulu, ac yn dathlu eich bod wedi cyflawni hynny. Beth sydd wedi digwydd i'r nod o 70 y cant o'r rhai dros 80 oed erbyn 24 Ionawr? A oedd hwnnw'n nod o gwbl, neu a yw hwnnw wedi mynd i ebargofiant? Rydych chi'n tynnu sylw at y niferoedd da iawn ddydd Gwener, 30,000, a 34,000 ddydd Sadwrn. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y niferoedd ar gyfer dydd Sul a dydd Llun, a sut mae'r rheini'n cymharu?
Ac yn olaf, mae'n dda gwybod y dylai'r rhai dros 70 oed fod yn cysylltu. Rwy'n credu y bydd hynny'n helpu Aelodau lle yr ydym ni wedi cael pobl sydd efallai wedi dweud nad oeddent wedi'i gael eto. Gallwn fynd yn ôl a dweud, os ydyn nhw dros 70 oed, fod angen iddyn nhw gysylltu. Ddoe ddiwethaf roeddwn yn gwrando ar raglen PM BBC Radio 4. Roedd yn esbonio y dylai pobl yn Lloegr gysylltu os oedden nhw dros 70 oed ac nad oedden nhw wedi'i gael, ond ni ddylai pobl yng Nghymru. Ac eto, heddiw, dywedir wrthym ni y dylen nhw. A oes mwy o waith i'w wneud o hyd i gydgysylltu cyfathrebu a cheisio cael gwell dull o gyfathrebu yn y DU pan fydd pethau'n wahanol neu'n newid, er mwyn inni geisio cydlynu'r rheini mewn ffordd gliriach i bobl?