Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 9 Chwefror 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y gwaith gwerthfawr yr ydym ni'n ei wneud mewn partneriaeth gymdeithasol i wireddu ein huchelgais ni ar gyfer Cymru o waith teg. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi newid y ffordd yr ydym ni'n edrych ar bopeth, bron, yn ein bywydau beunyddiol, gan gynnwys byd gwaith. Ac mae hynny wedi dod â'r heriau a oedd yn bodoli eisoes yn y gweithle fwyfwy i'r amlwg ochr yn ochr â gwerthfawrogiad a atgyfnerthwyd o'r gweithwyr sydd wedi ein cefnogi ni, o ddydd i ddydd yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae'r Llywodraeth hon yn llwyr gydnabod bod y mwyafrif llethol o gyflogwyr wedi gwneud cyfiawnder â'u gweithlu, gan eu cefnogi nhw a chymryd camau i'w cadw'n ddiogel. Ond, yn anffodus ac yn annerbyniol hefyd, fe wyddom nad dyma fu profiad pob gweithiwr. Mae'r coronafeirws wedi amlygu ac wedi chwyddo anghydraddoldebau a oedd wedi ymsefydlu yn y gweithle. Ac wrth inni ymlwybro tuag at adferiad, mae'n hanfodol nad ydym yn caniatáu i amodau economaidd heriol roi cyfle i waith annheg wreiddio ac ymledu. Nid yw'n ymwneud yn unig ag ailgodi'n gryfach, ond mae'n ymwneud â dewis y llwybr gorau i'n galluogi ni i lunio dyfodol tecach gyda'n gilydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi ein blaenoriaethau a'n huchelgeisiau ar waith ar gyfer Gwaith Teg Cymru, gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni ar gyfer helpu i wireddu canlyniadau o ran gwaith teg, ac rydym wedi gwneud cynnydd da yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, gan ddod ag undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru ynghyd i ddyfeisio llwybr tuag at waith tecach yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nid ydym wedi bod yn fwy ymwybodol erioed o'n gweithwyr gofal cymdeithasol anhygoel ni a'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn ystod pandemig coronafeirws. Mae'r fforwm hwn wedi sefydlu nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen yn gyflym i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â thâl a dilyniant, bargeinio ar y cyd, a sicrhau amgylchedd gwaith sy'n ddiogel, iach a chynhwysol.
Mae gwaith y fforwm iechyd a diogelwch wedi caniatáu'r cynnydd diweddar ar amddiffyniadau COVID yn y gweithle. Mae ystyriaethau ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle wedi eu gweddnewid gan goronafeirws ac fe sefydlwyd y fforwm cenedlaethol yn yr hydref i roi ffordd i undebau llafur, y prif gyrff o gyflogwyr o'r sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru a'r asiantaethau gorfodi perthnasol yn y DU ddod at ei gilydd i rannu eu profiad cyfunol nhw a chydweithio i wella iechyd a diogelwch yn y gweithle yng Nghymru. Fe fydd y newidiadau a wnaethom ni i reoliadau a chanllawiau gyda'n gilydd nid yn unig yn helpu i gadw ein gweithwyr ni'n fwy diogel, ond ein cymunedau ni a'n gwlad ni hefyd. Maen nhw'n tystio i'r hyn y gellir ei wneud pan fydd y Llywodraeth, undebau llafur, a chyflogwyr yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
Nid fu erioed yn bwysicach i weithwyr a chyflogwyr fod yn ymwybodol o'u hawliau nhw a'u cyfrifoldebau yn y gwaith. Yng nghyd-destun y pandemig ac yn dilyn un o argymhellion allweddol adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â'n partneriaid cymdeithasol ni, Cyngres Undebau Llafur Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y CBI, Siambrau Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn Acas a Chyngor ar Bopeth, i lansio ymgyrch ym mis Rhagfyr i gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle. Mae'r ymgyrch yn atgyfnerthu ein cefnogaeth ni i ehangu'r mynediad i undebau llafur a manteision cael cyflogwyr ac undebau llafur yn gweithio fel partneriaid mewn ysbryd o gydweithio, ymrwymiad a rennir a pharch at ei gilydd. Yn yr un modd, mae angen cefnogi'r cyflogwyr hefyd, a thrwy'r ymgyrch, rydym ni'n cysylltu cyflogwyr ledled Cymru â'r cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw i gydymffurfio â'r gyfraith.
Rydym ni'n meithrin perthynas ag asiantaethau'r DU hefyd i wella rhwydweithiau, rhannu gwybodaeth a'n capasiti ni ein hunain i ddylanwadu ar bolisi na chafodd ei ddatganoli. Mae'r dull hwn yn talu ar ei ganfed eisoes. Mae ein gwaith ni gydag Acas wedi arwain at sesiynau briffio digidol rhad ac am ddim ychwanegol ganddyn nhw i gyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru. Mae hyn wedi cysylltu â'n hymgyrch ni i helpu i godi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.
Gan weithio ar draws Llywodraeth Cymru, rydym ni'n defnyddio pwer pwrs y wlad a'n dull partneriaeth gymdeithasol ni i hyrwyddo arferion gwaith teg ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan ddefnyddio ysgogiadau fel y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yr her nawr yw cryfhau'r gweithredu drwy wella ein cyrhaeddiad ni a'n gallu ni i ysgogi a chefnogi newid o ran ymddygiad.
Mae'n iawn i ni roi cyfrif o'r hyn yr ydym ni'n ei drysori. A chan weithio gyda'n partneriaid cymdeithasol, rydym yn datblygu cyfres o ddangosyddion y byddwn ni'n eu defnyddio i fesur ac olrhain amrywiaeth o ganlyniadau gwaith teg yng Nghymru. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys olrhain cyfran y gweithlu sy'n ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol.
Yn olaf, rydym ni'n cryfhau'r dull partneriaeth gymdeithasol a fu'n nodwedd bwysig a sefydlog o'n gwleidyddiaeth a'n heconomi ddatganoledig ni. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn ffordd Gymreig o wneud pethau ac mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd allweddol o wella'r modd y gallwn ni wella'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ar y cyd, a sicrhau gwaith teg a lles cymdeithasol ac economaidd yn fwy eang. Yn ddiweddarach y mis hwn, fe fyddwn ni'n ymgynghori ar Fil partneriaeth gymdeithasol drafft nodedig iawn, a fydd yn cryfhau ac yn hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol, yn datblygu canlyniadau o ran gwaith teg ac yn sefydlu caffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.
Mae'r pandemig wedi golygu ein bod ni i gyd wedi gorfod newid y ffordd yr ydym ni'n byw ac yn gweithio. Nid dyma'r amser i ildio, lai byth i gwtogi ar amddiffyniadau yn y gweithle. Fel yr argymhellwyd gan adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg, rydym ni'n ymgysylltu nawr â Llywodraeth y DU i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru. Mae unrhyw erydu ar hawliau gweithwyr yn annerbyniol, yn ddiangen ac yn niweidiol, ac rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i gadw ei haddewid i ddiogelu hawliau gweithwyr yn dilyn Brexit. Wedi'r cyfan, nid yw ras i'r gwaelod o ran hawliau gweithwyr er budd y gweithwyr, y busnesau na'r economi yn ehangach. Mae gwaith diogel, sicr a gwerthfawr er budd diwydiant yn ogystal ag er budd yr unigolyn. Fe fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r gweithle ond, yn fwy na dim ond hynny, i economi Cymru gyfan hefyd. Fe fydd gwell bargen i'r gweithwyr yn golygu adferiad cryfach i'n cymunedau a'n cenedl ni. Dyna pam mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio tuag at waith teg yng Nghymru, nid yn unig mewn egwyddor ond yn ymarferol, gan gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau a bywoliaethau.