Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 9 Chwefror 2021.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei sylwadau cefnogol hi a'i hymroddiad i'r maes hwn? Pe caf i ddechrau gyda'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r contract economaidd, rydym yn ystyried ar hyn o bryd sut y cafodd y contract economaidd ei gymhwyso'n flaenorol, ac fe geir darn o waith dan arweiniad fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru o ran sut, fel y dywedais i, y gallwn ni gryfhau nid yn unig ei weithrediad o ran ysgogi'r newid hwnnw o fewn sefydliadau, ond yn gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni'r newid y bwriedir iddo ei wneud hefyd. Rwyf i o'r farn mai offeryn da iawn yw hwn o ran sut yr ydym yn rheoli'r cydberthnasau hynny, ac yn cefnogi cyflogwyr sy'n awyddus i wneud y peth iawn i gyrraedd y sefyllfa honno y byddem yn disgwyl iddynt fod ynddi gyda'u gweithlu, ac yn wir—faterion ynghylch meysydd sy'n ymwneud â gwaith teg hefyd, a lles eu gweithlu yn benodol.
O ran y DVLA a'r Aelod—[Anghlywadwy.]—nid wyf i'n gwybod. Mae'n frawychus ond nid yw'n syndod bod pobl—. Ni ddylai pobl fod yn ofni rhannu'r wybodaeth sydd ganddyn nhw ag Aelod ar gyfer dadlau eu hachos nhw, ac fe allaf i sicrhau'r Aelod y byddwn ni'n parhau i ddadlau'n gryf o blaid y gweithwyr yn y DVLA gyda Llywodraeth y DU, ac rydym hefyd—ac yn sicrhau, yn amlwg, ein bod ni mewn cysylltiad agos ac yn trafod â'r Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, sy'n cynrychioli aelodau yn y fan honno. Fe fyddaf i'n hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Helen Mary Jones ac Aelodau eraill am hynny.
Fe fyddaf i'n rhoi ystyriaeth i'r hyn a ddywed yr Aelod ynglŷn â gwaith y fforwm iechyd a gofal cymdeithasol a'r grwpiau gorchwyl a gorffen. Yn amlwg, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld yw gweithredu, ond y math cywir o weithredu, ac rwy'n credu—. Fel y dywedais i, os nad oeddem ni i gyd yn ymwybodol yn flaenorol o waith anhygoel y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hynny sy'n gofalu am lawer o'r rhai agosaf atom ni—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi cael profiad personol hefyd, fel minnau—mae hyn wedi dod fwyfwy i'r amlwg gyda'r pandemig, sy'n achosi'r brys gyda'n gwaith ni, ond yn sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny yn y ffordd briodol i wneud yn siŵr y caiff y proffesiwn hwnnw gyfiawnder, ond nid yn unig hynny, ei fod yn cael ei gydnabod yn deg hefyd am ei swyddogaeth yn ein cymunedau ni ledled y wlad.