2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 10 Chwefror 2021.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56275
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n ystyrlon nac yn barchus ar y mater hwn, er gwaethaf y gwaith enfawr sydd wedi digwydd ar draws Llywodraeth Cymru a chyda sefydliadau ledled Cymru dros y tair blynedd diwethaf ar ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer buddsoddi arian yn lle cronfeydd yr UE.
Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Byddwch wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan, a gyhoeddwyd yn yr hydref, a oedd yn adroddiad dinistriol ac yn gondemniad dinistriol o Lywodraeth y DU gan bwyllgor a oedd yn cael ei reoli'n bennaf gan Aelodau Ceidwadol. Cafwyd dwy feirniadaeth ganddynt o Lywodraeth y DU. Yn gyntaf oll, roedd y diffyg ymgysylltu a ddisgrifiwyd gennych. Yn ail, roedd yna haerllugrwydd, fel roeddwn i'n ei ddarllen, yn yr awydd i anwybyddu'r arbenigedd sydd gennym yng Nghymru ar gyfer cyflawni'r math o fuddsoddiadau rydych newydd eu disgrifio yng nghwm Cynon.
A yw'n peri cymaint o bryder i chi ag y mae'n ei wneud i mi, Weinidog, fod hyn yn frad? Mae'n frad go iawn yn erbyn pobl, nid yn unig y rhai ohonom a bleidleisiodd dros aros yn yr UE yn 2016, ond yn fwy felly, y bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, yr addawyd iddynt na fyddent yn colli ceiniog o fuddsoddiad—y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud iawn am yr holl fuddsoddiad a oedd yn dod i leoedd fel Blaenau Gwent. Dangoswyd bod hynny'n gelwydd noeth. Mae hynny'n golygu y bydd lleoedd fel yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli, yr etholaeth rydych chi'n ei chynrychioli, a llawer ohonom yn y Siambr hon, yn gweld buddsoddiadau a fyddai wedi digwydd yn ein pobl, ein lleoedd a'n seilwaith, ond na fyddant yn digwydd yn awr oherwydd y modd y mae Llywodraeth y DU wedi bradychu pobl Cymru.
Rwy'n cytuno'n llwyr ag asesiad Alun Davies o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi defnyddio pobl i gyflawni ei hagenda ei hun, a heb gyflawni'r addewidion a wnaeth iddynt. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dangos yr haerllugrwydd hwnnw yma. Rydym wedi gweithio'n galed iawn, gan edrych yn rhyngwladol, a throi at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, i weld beth y gallwn ei ddysgu ynghylch sicrhau buddsoddiad rhanbarthol yn y dyfodol yma. Rydym wedi cael sgwrs genedlaethol, gan siarad â miloedd o bobl i archwilio beth fydd y ffordd orau ymlaen ar gyfer ailadeiladu a sut y gallwn ddefnyddio ein harian yn y ffordd orau yn y dyfodol.
Roedd Llywodraeth y DU yn gyflym iawn i ddadlau y byddem yn cael mwy o arian eleni na'r llynedd. Ond wrth gwrs, mae debydu'r taliadau wedi lleihau ein cyllid, ac yn anwybyddu'r ffaith, pe baem wedi aros yn yr UE, y byddai gennym ddyraniad ariannol blwyddyn lawn bellach ar gyfer rhaglenni newydd, yn ogystal â'r taliadau a fyddai'n ddyledus o'r rhaglenni sy'n dechrau dod i ben. Felly, byddem wedi bod mewn sefyllfa wahanol iawn o'i chymharu â chronfa ffyniant gyffredin gwerth £220 miliwn Llywodraeth y DU ar gyfer y DU gyfan, ac nid ydym wedi cael unrhyw fanylion yn ei chylch o hyd. Cymharwch hynny â'r £375 miliwn blynyddol y byddem wedi'i gael gan yr UE. Mae gan Lywodraeth y DU amser o hyd i gyflawni ei haddewid na fyddwn geiniog yn waeth ein byd, a byddwn yn eu hannog i wneud hynny.
Mae Alun Davies, y Gweinidog emeritws, yn cyflwyno ei ddadleuon gyda'i angerdd a'i egni arferol, ac rwy'n derbyn, hyd yma, beth bynnag—. Mae Llywodraeth Cymru wedi cwyno am ddiffyg manylion am y gronfa ffyniant gyffredin. Serch hynny, mewn egwyddor, mae'n fecanwaith a fydd, yn y pen draw, yn cyflawni dros Gymru gobeithio. Felly, gan edrych y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol at y pwynt hwnnw, os ydym am ddatganoli mwy o bŵer i lywodraeth leol a rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol, a fyddech yn cytuno bod y gronfa ffyniant gyffredin yn rhoi cyfle delfrydol inni roi mwy o'r rheolaeth honno i awdurdodau lleol a chaniatáu iddynt gymryd rhan yn y broses o wario'r gronfa hon. Wedi'r cyfan, maent wedi cymryd rhan yn y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf llwyddiannus. Felly, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, a hefyd o fewn Llywodraeth Cymru gyda'r Gweinidog llywodraeth leol, a wnewch chi sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael rôl allweddol yn y broses o gyflwyno'r gronfa ffyniant gyffredin? Nid gyda ni ar hyn o bryd, rwy'n cyfaddef, ond pan gaiff y manylion eu hegluro yn y pen draw.
Wel, fel y dywed Nick Ramsay, nid yw'r manylion wedi'u hegluro eto, felly nid wyf yn gwybod a allaf gytuno â'i asesiad y bydd yn rhoi grym yn nwylo mwy o bobl leol ac yn gwneud y penderfyniadau hynny mor agos at lawr gwlad â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu ei fframwaith rhanbarthol ar gyfer buddsoddi, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn dilyn tair blynedd o ymgysylltu, cydweithredu ac ymgynghori. Ac roeddem yn glir mai ein meysydd blaenoriaeth fyddai busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, lleihau'r ffactorau sy'n arwain at anghydraddoldeb economaidd, cefnogi'r newid i economi ddi-garbon, a chymunedau iachach, tecach a mwy cynaliadwy. Ac rydym yn sicr yn gweld awdurdodau lleol fel partneriaid allweddol yn hynny. Ac roedd llywodraeth leol a CLlLC yn rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu ein fframwaith ac fe'u cynrychiolir ar y pwyllgor llywio sydd wedi arwain y gwaith hwnnw ers tair blynedd. Felly, dylai awdurdodau lleol chwarae rhan bwysig yn y dyfodol o ran datblygu rhanbarthol, a gobeithio y gallwn wneud hynny o fewn y fframwaith y buom yn ei ddatblygu yma yng Nghymru.
Weinidog, tybed a gaf fi ofyn i chi roi sylw arbennig i effaith colli cronfa gymdeithasol Ewrop a chronfeydd strwythurol ar ein rhaglenni gwaith a sgiliau yng Nghymru. Rwy'n clywed sibrydion braidd yn ddigalon—wel, maent yn fwy na sibrydion—fod bwriad yn awr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganoli eu rhaglenni gwaith. Nawr, rydym wedi cael rhaglenni gwaith rhagorol yma yng Nghymru, yn enwedig i'r bobl anodd eu cyrraedd sydd angen cymorth ychwanegol i gael gwaith oherwydd sgiliau a thrafnidiaeth a heriau eraill y maent yn eu hwynebu, a gwyddom sut i'w wneud. Felly, byddai'n drychinebus pe bai rhyw ddull canolog o wneud hyn, wedi'i lywio gan San Steffan, yn ailadrodd y problemau a oedd ganddynt yn rhaglenni gwaith Thatcheraidd y 1980au. Felly, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi gyflwyno sylwadau, os yw'r rhaglenni hyn yn cael eu hailgynllunio, pan fyddant yn chwilio am bartneriaid i'w cyflwyno, eu bod yn defnyddio'r awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol sydd wedi bod yn eu cyflwyno ar lawr gwlad yn llwyddiannus iawn—yn llawer gwell nag yn Lloegr ac mewn mannau eraill—yn y dyfodol hefyd? Rydym nid yn unig yn colli'r arian—mae wedi dileu ein gallu i reoli'r hyn a wnawn gyda rhaglenni cyflogaeth a sgiliau pwysig iawn.
Yn sicr. Ac yn amlwg, mae Huw Irranca-Davies yn siarad ag awdurdod go iawn ar hyn ar ôl cadeirio ein grŵp, sydd wedi bod yn edrych ar yr agenda benodol hon ers peth amser. A bydd yn gwybod yn well na neb am yr effaith y mae'r prosiectau UE hynny wedi'i chael yng Nghymru, gan greu dros 56,400 o swyddi newydd a 15,400 o fusnesau newydd ers 2007, yn ogystal â chefnogi 30,000 o fusnesau, a helpu bron i 100,000 o bobl i gael gwaith yn y cyfnod hwnnw. A dyna'r math o beth y mae angen inni barhau i'w wneud.
Rydym wedi ceisio rhoi camau buan ar waith i liniaru'r effaith gynnar, felly rydym wedi bod yn rhagweithiol wrth ymestyn nifer o'n hymyriadau economaidd allweddol a gefnogir gan gronfeydd yr UE a oedd i fod i ddod i ben yn y flwyddyn ariannol nesaf, i'w hymestyn i flynyddoedd dilynol, ac mae hyn yn cynnwys cymorth i entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig eu maint sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Busnes Cymru. Cymorth ar gyfer gweithgynhyrchu uwch cynaliadwy, buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes busnes, a chymorth ar gyfer technolegau ynni carbon isel a buddsoddi mewn safleoedd twristiaeth allweddol—mae'r rhain yn bethau rydym wedi bod yn canolbwyntio arnynt wrth i ni baratoi ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Roedd cwestiwn 5 yn enw Rhianon Passmore, nad yw'n bresennol. Felly, symudwn at gwestiwn 6, David Rees.