Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 10 Chwefror 2021.
Clywais eich ymateb i David Rowlands, Weinidog, ond wrth gwrs, mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid o'r Llywodraeth ganolog. Nawr, rwy'n pryderu bod seilwaith, yn y gyllideb ar gyfer trafnidiaeth genedlaethol, wedi mynd o £150 miliwn eleni i £129 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn sicr, mae angen prosiectau seilwaith hirdymor ac uwchraddio ledled Cymru, ac felly rwy'n ceisio deall pam y mae hynny wedi digwydd, pam y mae'r gyllideb hon wedi'i thorri'n sylweddol.