Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:45, 10 Chwefror 2021

Ond mae eich dadleuon chi'n ddiffygiol, oherwydd dydy hynna ddim yn rhesymegol. Mae beth rydych chi newydd ei egluro rŵan yn dangos nad ydych chi'n bwriadu dyrchafu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, i wyneb y Bil yn y ffordd rydych chi wedi dewis—a dwi'n cytuno efo hynny—dyrchafu dwy elfen benodol arall i fod ar wyneb y Bil. Mae'n rhaid i hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, fod ar wyneb y Bil, os ydym ni o ddifri yn ein nod o greu cwricwlwm fydd yn galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus o Gymru a'r byd, sef un o gysyniadau sylfaenol y Bil. Mae'n rhaid ei gynnwys o ar wyneb y Bil os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael â phroblemau dwfn hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol sydd yn ddwfn ac yn systemig o fewn ein cymdeithas ni, yn anffodus. Onid ydych chi'n cytuno bod y byd wedi newid yn llwyr ers i'r Bil yma gael ei lunio ac y byddai cynnwys trydedd elfen fandadol a allai greu newid pellgyrhaeddol yn golygu pasio darn o ddeddfwriaeth llawer mwy grymus, gweddnewidiol a rhesymegol?