3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau llefarwyr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddem i gyd yn falch iawn, wrth gwrs, o'ch clywed yn cyhoeddi y bydd ysgolion cynradd ar agor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i ddisgyblion y cyfnod sylfaen ar ôl hanner tymor. Fodd bynnag, gyda dim ond tri diwrnod i fynd tan hanner tymor, rydym wedi gweld cyhoeddi dros nos y canllawiau y mae ysgolion wedi bod yn galw amdanynt ers dyddiau bellach. Y bore yma, mewn gwirionedd, cafodd rhieni mewn un rhan o Gymru rybudd na fyddai eu hysgol yn ailagor fel y rhagwelwyd am nad oeddent wedi cael y canllawiau ar sut i gynnal asesiadau risg, felly rwy'n gobeithio y byddant yn llwyddo i ddal i fyny.
Fe wyddoch fod undebau'r athrawon yn amharod iawn i weld eu haelodau'n dychwelyd heb fesurau ychwanegol i wneud y mannau diogel hyn yn fwy diogel byth, beth bynnag fo barn penaethiaid unigol. Felly, tybed a allech grynhoi'r camau newydd i ni, a dweud wrthym sut y byddwch yn cael yr arian neu'r deunyddiau i'r ysgolion mewn pryd iddynt allu eu gweithredu, a dweud wrthym efallai sut rydych wedi hysbysu ysgolion, gan ei bod yn amlwg heddiw nad yw rhai ohonynt yn gwybod o hyd. Diolch.
Diolch, Suzy. Rhannwyd y canllawiau â'n partneriaid yn yr undebau llafur ddydd Gwener diwethaf, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy yn y cyfamser i sicrhau bod y canllawiau'n eu bodloni, ac i weithio gyda hwy yn hytrach na chyhoeddi canllawiau a gorfod eu tynnu'n ôl o ganlyniad i sylwadau a wneir gan y proffesiwn. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ryddhau'r canllawiau hynny cyn gynted ag sy'n bosibl, ac rydym wedi hysbysebu ar draws sianeli cyfrwng Cymraeg y bore yma fod y canllawiau ar gael.
A gaf fi bwysleisio, serch hynny, fod yr hyn a wnaeth penaethiaid a staff ysgolion yn llwyddiannus yn nhymor yr hydref, i wneud eu sefydliadau mor ddiogel â phosibl rhag COVID, yn aros yr un fath? Gwyddom beth sy'n gweithio o ran golchi dwylo, awyru a chadw pellter cymdeithasol, cyn belled ag y bo modd, yn enwedig gyda phlant hŷn. Ond rydych yn iawn, rydym yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith, gan gynnwys £5 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer gorchuddion wyneb o ansawdd uchel, a fydd yr un fath ac yn cael eu dosbarthu ledled Cymru, yn ogystal â phrofion llif unffordd. Mae pecynnau profion llif unffordd wedi'u rhoi i ysgolion arbennig yr wythnos hon, a bydd profion llif unffordd i'r rhai sy'n dychwelyd i'r ysgol ar 22 Chwefror yn yr ysgolion erbyn pan fyddant yn dychwelyd.
Diolch ichi am hynny. Ac rwy'n cymryd o hynny hefyd fod yr undebau llafur yn fodlon â'r camau sydd bellach ar waith, yn sicr ar gyfer blynyddoedd y cyfnod sylfaen. Rwy'n gobeithio y byddant yn teimlo'r un fath ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd, oherwydd, fel y gwyddom, safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw mai pwysau ar y GIG sy'n pennu pa rannau o'n cymdeithas sy'n cael eu rhyddhau a pha bryd. Ond ei safbwynt hefyd yw y dylai ysgolion—a hynny'n gyffredinol—gael elwa ar unrhyw hyblygrwydd yn sgil y gostyngiad yn y cyfraddau heintio, sy'n swnio fel ymrwymiad i agor yr ysgolion uwchradd a'r colegau nesaf, rwy'n credu, yn hytrach na dechrau agor rhannau o'r economi.
Fe sonioch chi fod canllawiau lefel uchel ar gyfer asesu wedi mynd i ysgolion erbyn hyn ar gyfer y blynyddoedd arholiadau, sy'n caniatáu, ac rwy'n dyfynnu yma, byddai nifer gymharol fach o ddarnau o dystiolaeth glir yn ddigon i ddangos cyrhaeddiad ar draws themâu allweddol trosfwaol ar gyfer llawer o gymwysterau.
Dyna a ddywedoch chi wrth David Melding. Ac er bod y canllawiau lefel uchel hynny'n rhybuddio yn erbyn dyfarnu graddau ar botensial dysgwr, yn hytrach na'i gyflawniadau gwirioneddol, rwy'n credu y bydd y demtasiwn yno o hyd, oni fydd, yn absenoldeb corff o waith graddedig? Felly, rwy'n meddwl tybed a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio unrhyw hyblygrwydd newydd—wedi'i gefnogi gan brofion staff ddwywaith yr wythnos—i ganiatáu cymaint o ddysgu wyneb yn wyneb â phosibl ar gyfer y blynyddoedd hynny, i'w helpu nid yn unig i ddal i fyny os ydynt o dan anfantais yn ddigidol, ond i adeiladu corff o waith graddadwy, a asesir o dan amodau rheoledig. Ac os gallwch ddweud hynny, a allwch ddweud hefyd a ydych wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ailagor ysgolion a cholegau'n llawn yn fwy lleol, gan fod y dangosyddion Safon Uwch yn parhau i amrywio ledled y wlad?
Diolch, Suzy. Yn wir, mae brwdfrydedd gwirioneddol gan yr undebau llafur ac awdurdodau addysg lleol i geisio blaenoriaethu blynyddoedd arholi, am yr union resymau rydych wedi'u hamlinellu. Hoffai athrawon i'r plant hynny ddychwelyd at gymaint o ddarpariaeth wyneb yn wyneb â phosibl, fel y gellir cynnal yr asesiadau hynny a'r gwaith mewn perthynas ag asesu. Rwyf am dawelu meddyliau: mae'r canllawiau'n dweud y gall gwaith a wneir gartref ffurfio rhan o asesiad hefyd, ond mae penderfyniad llwyr yn gyffredinol i symud yn awr tuag at ddychwelyd yn ddiogel at ddysgu wyneb yn wyneb i'r myfyrwyr hŷn hynny.
Soniodd Suzy am y pwysau ar y GIG. Dyna un o'r ffactorau y bydd angen inni ei ystyried; mae'n un pwysig, wrth gwrs. A'r perygl o lethu'r GIG a'r hysbysiad lefel 5 gan y prif swyddogion meddygol ar draws y Deyrnas Unedig a wnaeth i mi wneud penderfyniad anffodus iawn i orfod cau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i fwyafrif y disgyblion. Rhaid inni hefyd barhau i fonitro lefelau trosglwyddo cymunedol. Rhaid inni hefyd barhau i fonitro lefelau profion positif, ac mae angen inni asesu beth fyddai cael mwy o fyfyrwyr yn dychwelyd at addysg wyneb yn wyneb yn ei olygu i'r gyfradd R. Ond yn amlwg, mae yna benderfyniad yn gyffredinol, ac erbyn yr adolygiad tair wythnos nesaf, gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i amlinellu'r camau nesaf ar gyfer sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb.
Mae hynny'n galonogol, oherwydd mae dysgwyr hŷn a rhieni'n dechrau poeni'n fawr yn awr wrth iddynt ein gweld yn agosáu at y cyfnod arholiadau traddodiadol—rwy'n gwybod bod y broses yn wahanol nawr—ac maent yn gweld eu plant yn pryderu fwyfwy ynglŷn â hyn. Felly, gorau po gyntaf y byddant yn agor o ran hynny. Ni wnaethoch ddweud dim am wahaniaethau ledled Cymru, ond efallai nad ydych mewn sefyllfa i wneud hynny.
Roeddwn yn mynd i'ch holi am gynllun gweithredu'r cwricwlwm, ond oni bai fod Siân yn mynd i'ch holi amdano heddiw, fe wnaf ei gadw tan ein cyfarfod terfynol y mis nesaf, a gofyn cwestiwn cyflym i chi am gyllid ysgolion, os caf. Mae Aelodau wedi mynegi pryder am y lefelau uchel hanesyddol o gronfeydd wrth gefn, yn enwedig ar lefel ein hysgolion cynradd. Felly, roedd gostyngiad o 22 y cant yn y sector hwnnw fis Mawrth y llynedd, cyn COVID, yn werth ei nodi, ond ar yr un pryd roedd y gostyngiad cyffredinol yn 32.6 y cant, sy'n dangos bod ysgolion uwchradd yn dal i'w chael hi'n anodd ac mewn gwirionedd, roedd rhai ysgolion cynradd yn dechrau cael anawsterau. Ac roeddem mewn sefyllfa, nawr, wrth anelu i mewn i COVID y llynedd, gyda 35 y cant o'n hysgolion â chronfeydd wrth gefn negyddol. Felly, nid yw hynny'n ddim hyd yn oed, mae'n llai na dim. Felly, sut yr effeithir ar eich cynllun adfer COVID ar gyfer addysg gan y ffaith bod cynifer o ysgolion yn gyfystyr â methdalwyr? A chan fod naw ohonynt yn ysgolion arbennig, a fyddwch yn ceisio dod o hyd i gronfeydd anghenion dysgu ychwanegol eraill ar gyfer yr ysgolion penodol hynny?
Wel, mae cyllid ar gyfer adferiad yn ychwanegol at gyllidebau arferol ysgolion ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi buddsoddi £29 miliwn yn ein cronfa recriwtio, adfer a chodi safonau, ac arian ychwanegol ar gyfer carfannau arholiadau, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer cynhyrchu deunydd cymorth ar gyfer carfannau arholiadau. Byddaf bob amser yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl i'r system ADY, gan gydnabod yr heriau penodol sy'n gysylltiedig ag addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac os gallaf wneud hynny, byddaf yn falch iawn o ychwanegu symiau ychwanegol at y llinell gyllideb benodol honno.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ymhen tair wythnos, fe fydd y Senedd lawn yn trafod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). O'i basio, fe fydd y ddeddfwriaeth yma yn gosod cyfeiriad addysgol ein cenedl am flynyddoedd lawer. Mae dysgu am gydberthynas a rhywioldeb yn cael ei gynnwys ar wyneb y Bil fel elfen orfodol i'w chynnwys yng nghwricwlwm pob ysgol. Mae dysgu am lesiant meddyliol bellach wedi'i ychwanegu i wyneb y Bil yn ystod Cyfnod 2. Fedrwch chi egluro pam fod angen i'r ddwy elfen yma fod ar wyneb y Bil?
Mae'r penderfyniad i roi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar wyneb y Bil yn deillio o argymhelliad yr adolygiad annibynnol a sefydlais fel y Gweinidog. Mae cynnwys sicrhau bod ysgolion, wrth osod y cwricwlwm, yn ystyried iechyd meddwl a llesiant yn cyd-fynd yn llwyr â chyfeiriad polisi'r Llywodraeth hon er mwyn sicrhau dull ysgol gyfan. Felly, yr hyn rydym yn ei newid a'r hyn rydym yn ei ddiwygio yw sicrhau, wrth fynd ati i gynllunio cwricwlwm, fod iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr yn ystyriaeth allweddol. O ran cynnwys y cwricwlwm, bydd iechyd meddwl a llesiant, wrth gwrs, yn chwarae rhan bwysig iawn o'r maes dysgu a phrofiad, sy'n rhan statudol o'r cwricwlwm.
Dwi'n cytuno'n llwyr efo chi y gallai cynnwys y ddwy elfen yma gyfrannu yn sylweddol tuag at weddnewid ein cymdeithas ni mewn ffordd gadarnhaol: helpu cael gwared ar gamdrin menywod a chreu cymdeithas gydradd; helpu dileu rhagfarn yn erbyn y gymuned LGBT; ac o ran atal problemau iechyd meddwl. Addysg ydy'r allwedd i greu'r trawsnewid sydd ei angen. Ond mae'r Bil yn wallus ac yn ddiffygiol, oherwydd dydy o ddim yn rhesymegol.
Mae eich Bil yn ddiffygiol, oherwydd ei fod yn afresymegol.
Mae cynnwys y ddwy elfen rydyn ni'n eu trafod er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu dysgu'n gyson ar draws ein hysgolion ni, am eu bod nhw'n gallu bod yn faterion cymhleth ac anodd eu dysgu, ac am ein bod ni'n credu y gallai dysgu amdanyn nhw greu cymdeithas well yng Nghymru—. Rydych chi'n eu cynnwys nhw am y rhesymau yna, ond, eto, yr un ddadl yn union sydd yna a'r un ddadl gwbl ddilys ynglŷn â chynnwys trydedd elfen ar wyneb y Bil, sef rhoi hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ar wyneb y Bil. Fedrwch chi egluro'r rhesymeg dros gynnwys dwy elfen bwysig ond ymwrthod â rhoi'r drydedd un ar wyneb y Bil?
O dan amodau'r Cwricwlwm newydd i Gymru, fe fydd addysgu hanes Cymru a hanes pobl dduon a lleiafrifoedd yn orfodol yn ein hysgolion. Y rheswm am hynny yw eu bod wedi'u hamlinellu yn ein datganiad o'r hyn sy'n bwysig, sy'n rhan statudol o'r cwricwlwm.
Ond mae eich dadleuon chi'n ddiffygiol, oherwydd dydy hynna ddim yn rhesymegol. Mae beth rydych chi newydd ei egluro rŵan yn dangos nad ydych chi'n bwriadu dyrchafu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, i wyneb y Bil yn y ffordd rydych chi wedi dewis—a dwi'n cytuno efo hynny—dyrchafu dwy elfen benodol arall i fod ar wyneb y Bil. Mae'n rhaid i hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth, fod ar wyneb y Bil, os ydym ni o ddifri yn ein nod o greu cwricwlwm fydd yn galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus o Gymru a'r byd, sef un o gysyniadau sylfaenol y Bil. Mae'n rhaid ei gynnwys o ar wyneb y Bil os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael â phroblemau dwfn hiliaeth ac anghydraddoldeb hiliol sydd yn ddwfn ac yn systemig o fewn ein cymdeithas ni, yn anffodus. Onid ydych chi'n cytuno bod y byd wedi newid yn llwyr ers i'r Bil yma gael ei lunio ac y byddai cynnwys trydedd elfen fandadol a allai greu newid pellgyrhaeddol yn golygu pasio darn o ddeddfwriaeth llawer mwy grymus, gweddnewidiol a rhesymegol?
Mae Siân Gwenllian yn iawn; rhaid addysgu'r pynciau hyn yn ysgolion Cymru, ac fe gânt eu haddysgu yn ysgolion Cymru—[Torri ar draws.] Na, os gadewch i mi orffen, Siân Gwenllian—fe gânt eu haddysgu yn ysgolion Cymru am eu bod wedi'u cynnwys yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, sy'n rhan orfodol o'r cwricwlwm. Rwy'n siŵr fod Siân Gwenllian yn gwybod ystyr y gair 'gorfodol'. Bydd yn ofynnol yn y gyfraith iddynt gael eu haddysgu.
A gaf fi rybuddio'r Aelod? Oherwydd rwy'n gwybod ei bod wedi rhoi amser ac ymdrech i gyfarfod â Charlotte Williams, sydd â diddordeb arbennig mewn cynghori'r Llywodraeth ar bwnc hanes pobl dduon. Nid yw Charlotte Williams yn credu y gellir gwneud yr hyn y mae Siân Gwenllian yn gobeithio ei gyflawni drwy sôn am hanes pobl dduon ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn unig. Nid yw'n credu mai dyna'r dull cywir. Os ydym am weld y gweddnewidiad y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano, mae arnom angen i'r materion hyn gael eu haddysgu fel themâu trawsgwricwlaidd yr holl ffordd drwy'r cwricwlwm a dyna fydd yn cael ei gyflawni gan ein datganiad o'r hyn sy'n bwysig, sydd, fel rwy'n ailadrodd eto, yn orfodol ac felly bydd yn rhaid ei addysgu.