Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 10 Chwefror 2021.
Wel, mae cyllid ar gyfer adferiad yn ychwanegol at gyllidebau arferol ysgolion ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi buddsoddi £29 miliwn yn ein cronfa recriwtio, adfer a chodi safonau, ac arian ychwanegol ar gyfer carfannau arholiadau, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer cynhyrchu deunydd cymorth ar gyfer carfannau arholiadau. Byddaf bob amser yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl i'r system ADY, gan gydnabod yr heriau penodol sy'n gysylltiedig ag addysg i blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac os gallaf wneud hynny, byddaf yn falch iawn o ychwanegu symiau ychwanegol at y llinell gyllideb benodol honno.