Dysgu Ar-lein

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:10, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n dal i gael galwadau yn dweud nad yw nifer y dyfeisiau sydd ar gael mewn gwahanol gartrefi yn cyfateb i nifer y dysgwyr. A gaf fi ofyn yn benodol—. Hynny yw, nid oes rhaid i'r dyfeisiau fod yn newydd; gellir eu haddasu at ddibenion newydd—eu darparu'n ail-law. Felly, a gaf fi ofyn pa fesurau rydych wedi'u sefydlu, Weinidog, i sicrhau bod TG wedi'i addasu at ddibenion newydd, yn ei holl ffurfiau, yn cyrraedd y teuluoedd sydd fwyaf o'u hangen?