Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch, Dai. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 138,000 o ddyfeisiau i ysgolion. Bydd 54,000 o ddyfeisiau eraill yn cael eu darparu yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr ym mhob awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sy'n ffurfio rhanbarth Gorllewin De Cymru, yn darparu cymorth ac arweiniad lle mae eu hangen.