Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:43, 10 Chwefror 2021

Mae cynnwys y ddwy elfen rydyn ni'n eu trafod er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu dysgu'n gyson ar draws ein hysgolion ni, am eu bod nhw'n gallu bod yn faterion cymhleth ac anodd eu dysgu, ac am ein bod ni'n credu y gallai dysgu amdanyn nhw greu cymdeithas well yng Nghymru—. Rydych chi'n eu cynnwys nhw am y rhesymau yna, ond, eto, yr un ddadl yn union sydd yna a'r un ddadl gwbl ddilys ynglŷn â chynnwys trydedd elfen ar wyneb y Bil, sef rhoi hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ar wyneb y Bil. Fedrwch chi egluro'r rhesymeg dros gynnwys dwy elfen bwysig ond ymwrthod â rhoi'r drydedd un ar wyneb y Bil?