Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 10 Chwefror 2021.
Yn bendant iawn. Dwi'n meddwl bod y Senedd Ieuenctid gyntaf wedi cael ei chyfoethogi gan y ffaith ein bod ni wedi cael ystod eang o bobl ifanc sy'n cynrychioli gwahanol agweddau o fywyd pobl ifanc yng Nghymru, a'r lleisiau hynny i gyd yn cael eu cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid. Dwi'n awyddus iawn i weld ein bod ni, wrth baratoi ar gyfer yr etholiadau i'r Senedd Ieuenctid nesaf, yn sicr o gynnwys y sefydliadau partneriaid hynny sy'n gallu cynnig yr ystod ehangaf posib o ymgeiswyr ar gyfer y Senedd Ieuenctid honno, oherwydd mae llais pob person ifanc yng Nghymru yn haeddu cael eu clywed, beth bynnag yw eu cefndir nhw. Mae hynna wedi sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid gyntaf ni wedi bod yn llwyddiannus ac yn amrywiol o ran y lleisiau sydd i'w clywed, ac fe glywn ni'r lleisiau yna eto yn ein cyfarfod ni, fel Senedd, ar 24 Chwefror.
Ac fe liciwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb sydd wedi gweithio ar greu llwyddiant y Senedd Ieuenctid gyntaf yma, yr Aelodau yn enwedig, ond pawb—y partneriaid, fel rŷch chi wedi sôn, Helen Mary, a'r staff sydd wedi gweithio o'r Comisiwn, a hefyd yr Aelodau o'r Senedd sydd wedi cydweithio, boed yn Weinidogion, yn Gadeiryddion pwyllgor, aelodau pwyllgor ac Aelodau'r Senedd. Mae'r cydweithrediad rhwng ein Senedd ni a'r Senedd Ieuenctid wedi bod yn gadarnhaol iawn dros y cyfnod yma, ac, yn sicr, dwi'n meddwl bod ein Senedd ni wedi elwa o'r ymwneud â'r Senedd Ieuenctid.