Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 10 Chwefror 2021.
Y nod yw adeiladu ar lwyddiant tymor cyntaf y Senedd Ieuenctid, sy'n dod i ben yn swyddogol y mis hwn, gyda sesiwn fusnes ar y cyd rhwng ein Senedd a'r Senedd Ieuenctid ar 24 Chwefror. Mae'r tymor cyntaf yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a bydd y gwersi a ddysgir yn cael eu cymhwyso i'r gwaith o gynllunio ar gyfer tymor nesaf y Senedd Ieuenctid. Disgwylir i'r etholiad nesaf gael ei gynnal ym mis Tachwedd 2021, a bydd y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y Senedd yn parhau i gynorthwyo gyda'r gwaith yma.