– Senedd Cymru am 1:01 pm ar 10 Chwefror 2021.
Fe fyddwn ni'n trafod grŵp 1 o welliannau yn gyntaf, ac mae'r grŵp hynny'n ymwneud â seiliau adfeddiannu. Gwelliant 32 yw'r prif welliant yn y grŵp a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gyflwyno'r gwelliant yma ac i siarad i'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn credu y dylid gwahardd troi allan heb fai, ac mae'r gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno heddiw yn adlewyrchu'r safbwynt hwn. Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn seiliedig ar fodel yr Alban, sy'n gwahardd troi allan heb fai ond yn caniatáu troi allan mewn nifer gyfyngedig o amgylchiadau. Nid oherwydd ein bod yn meddwl ei fod yn berffaith yw'r rheswm dros ddefnyddio dull yr Alban, er ei fod yn well o lawer na'r dull a gynigir heddiw, ond pe baem yn mynd am waharddiad llwyr, o gofio’r hyn a ddywedwyd mewn cyfnodau blaenorol, rwy'n tybio byddai'r Gweinidog yn dadlau y byddai hyn mewn perygl o fod yn anghydnaws â deddfau hawliau dynol. Yn bersonol, credaf y byddai troi pobl allan a gwneud pobl yn ddigartref heb reswm yn mynd yn groes i hawliau dynol ynddo'i hun, ond yn anffodus, nid oes gan bobl ddigartref yr adnoddau ariannol i sefydlu grwpiau lobïo ar gyfer pob plaid ac i ddwyn achosion llys yn erbyn y Llywodraeth. Felly, yn hytrach, rydym wedi benthyg model yr Alban, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn gyfraith ers blynyddoedd lawer, ac felly mae'n rhesymol i bob un ohonom dybio y byddai'n gydnaws â chyfraith hawliau dynol. Yn sicr, byddai’n cryfhau hawliau tenantiaid yn sylweddol ac yn golygu y byddem yn llawer agosach at roi diwedd ar droi allan heb fai. Yng Nghyfnod 2, esboniodd y Gweinidog y gallai'r seiliau fod yn rhy gul ac y gallent atal landlord rhag adhawlio eu heiddo pe baent heb eu cynnwys ar y seiliau hyn. Felly, dyna pam fod y gwelliant yn rhoi pŵer i'r Gweinidog addasu'r seiliau.
Yn fwy cyffredinol, hoffwn amlinellu safbwynt fy ngrŵp ar y ddeddfwriaeth. Sef, nid ydym yn credu bod y Llywodraeth wedi taro'r cydbwysedd iawn rhwng hawliau tenantiaid, sef y rhai tlotach yn aml, a landlordiaid, sef y grŵp a chanddynt y pŵer lobïo yn hanesyddol. Nid yw’r Llywodraeth wedi gwneud digon o symud ar hyn, o leiaf i'r cyfeiriad yr hoffem ei weld. Cafwyd addewid, wrth gwrs, gan y Prif Weinidog am waharddiad llwyr ar droi allan heb fai, ond mae hyn wedi'i lastwreiddio i gynyddu'r cyfnod rhybudd gofynnol yn unig o ddeufis i chwe mis. Mae hwnnw’n gam sylweddol tuag at safbwynt y landlordiaid, ac mae arnaf ofn ei fod yn adlewyrchu'r anghydbwysedd grym mewn perthynas â gwahanol grwpiau a'u gallu i ddeall y materion hyn a gallu lobïo dros newid. Ein dealltwriaeth o hyd yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwahardd troi allan heb fai yn Lloegr, ond maent wedi gohirio'r ddeddfwriaeth honno oherwydd y pandemig. Serch hynny, golyga hynny y byddai pasio'r ddeddfwriaeth hon heddiw yn golygu mai Cymru fyddai’r eithriad. Hawliau tenantiaid yng Nghymru fyddai'r gwannaf, ac mae honno’n sefyllfa na all fy ngrŵp ei chefnogi.
O dan unrhyw amgylchiadau eraill, gallem o leiaf ystyried bod y symudiad bach hwn yn werth chweil, ond mae'r pandemig, i bob pwrpas, yn golygu ein bod yn trafod yma beth fydd y drefn gyfreithiol ar ôl y pandemig. Felly, ni fydd beth bynnag sy'n digwydd y prynhawn yma'n effeithio’n ymarferol ar hawliau tenantiaid ar hyn o bryd, yn y tymor byr. Fodd bynnag, yn y tymor hwy, byddai pasio’r Bil hwn yn niweidiol, gan y byddai'n anochel yn gohirio'r newidiadau y byddem am eu gweld yn cael eu rhoi ar waith. Fel y cyfryw, heb unrhyw symudiadau sylweddol gan y Llywodraeth heddiw, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y Bil ac yn ceisio cyflwyno Bil llawer cryfach, pe baem yn llwyddo i ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Byddai hwnnw'n ddull tecach i bawb, ac yn nodi ein bwriad clir i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain yn hytrach na derbyn yr hyn a gynigir yma. Edrychaf ymlaen at y ddadl. Diolch yn fawr.
Mae gwelliannau 51 a 52 y Ceidwadwyr yn cyflwyno rhai seiliau gorfodol dros adennill meddiant. Rwy'n gefnogol i nod cyffredinol y Bil o gynyddu sicrwydd deiliadaeth ar gyfer rhentwyr, fel y mwyafrif ohonom ar draws y Siambr. Fodd bynnag, mae'n werth cydnabod pryderon llawer o landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo am yr effaith y gallai'r Bil ei chael ar eu gallu i adennill meddiant ar eu heiddo pe bai angen iddynt fel cam olaf un. Gwaethygwyd y pryderon hyn o ystyried y dagfa yn llysoedd Cymru ar hyn o bryd, gydag ymchwil gan Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) Cymru yn dangos ei bod bellach yn cymryd 22.6 wythnos ar gyfartaledd rhwng bod landlord preifat yn gwneud cais yn y llysoedd i eiddo gael ei adfeddiannu a bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd. Mae hyn yn achosi aflonyddwch a phryder i landlordiaid, yn cynyddu cost camau gweithredu, ac yn atal tai rhag bod ar gael i bobl sydd eu hangen. Fel y cyfryw, mae’r Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl (ARLA) wedi galw am gynnwys seiliau gorfodol ychwanegol yn y Bil i sicrhau ei fod yn gweithio ac yn ddull cytbwys. Felly, mae gwelliant 51 yn cynnwys seiliau megis os yw’r landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu symud i mewn i’r eiddo fel yr awgrymwyd gan ARLA. Er nad oedd y Gweinidog yn cytuno â hyn yng Nghyfnod 2, mae'n bwysig cydnabod bod amgylchiadau pobl yn newid. Os yw landlord yn wynebu digartrefedd neu anawsterau ariannol, yna efallai y bydd angen iddynt symud i mewn i'w heiddo neu ei werthu, a dylai'r Bil gydnabod yr amgylchiadau eithriadol hyn.
Mae gwelliant 51 hefyd yn cynnwys seiliau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a cham-drin domestig. Byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y byddai'r Gweinidog yn ymateb i dystiolaeth ysgrifenedig gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, sy’n nodi y byddai angen sefydlu proses fonitro ofalus i ddysgu am brofiadau tenantiaid a landlordiaid er mwyn sicrhau na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n tanseilio gallu landlordiaid i ymateb i faterion difrifol o’r fath.
Mae gwelliant 52 yn galluogi benthyciwr morgeisi i adennill meddiant ar eiddo. Er eu bod yn cefnogi bwriad y Bil, mae UK Finance yn nodi pryderon y gallai effaith y risg credyd uwch wanychu’r sector rhentu preifat yng Nghymru, a fyddai’n mynd yn groes i ddyhead Llywodraeth Cymru i weld sector rhentu preifat bywiog, hyfyw, o ansawdd uchel ac sy’n tyfu ar gyfer y rheini sy'n ei ddewis neu sydd ei angen. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r problemau gyda'r cyflenwad tai yng Nghymru, ac mae'n bwysig nad yw'r Bil yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol ar argaeledd tai. A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu effaith y Bil ar y cyflenwad tai yng Nghymru, fel rhan o'r adolygiad ôl-weithredu? Diolch.
Y Gweinidog, Julie James.
Diolch, Lywydd. Fel y mae Delyth wedi’i ddweud, byddai ei gwelliannau 32 a 33 gyda'i gilydd yn cael gwared ar allu'r landlord i gyflwyno rhybudd o dan adran 173 mewn perthynas â'r mwyafrif helaeth o gontractau meddiannaeth, gan ei osod yn lle hynny gyda seiliau dros feddiannu sy’n debyg ond nid yr un peth â'r dull sydd ar waith yn yr Alban. Mae'r seiliau newydd hyn a nodir mewn Atodlen 8ZA newydd naill ai'n orfodol neu'n ddisgresiynol ac yn ei gwneud yn ofynnol i landlord gyflwyno o leiaf 12 mis o rybudd cyn y gellir gwneud cais am feddiant. Fodd bynnag, dim ond ar gyfer contractau meddiannaeth a nodir yn Atodlen 8A, sy'n darparu o leiaf ddeufis o rybudd, y byddai gallu landlord i gyflwyno rhybudd adran 173 yn cael ei gadw, felly dyma fyddai'r amddiffyniad gwannaf yn y Deyrnas Unedig mewn gwirionedd, ac nid y cryfaf, fel roedd hi'n ei honni.
Nid wyf yn hyderus fod y seiliau a restrir yn yr Atodlen 8ZA newydd o reidrwydd yn cynnwys yr holl resymau pam y gallai landlord fod yn awyddus i geisio meddiant. Mae angen ystyriaeth fanwl ac ymgynghori ar ddeddfwriaeth fel hon sy’n seiliedig ar seiliau i sicrhau bod y seiliau y darperir ar eu cyfer yn cynnwys yr holl sefyllfaoedd a all godi. Heb y gwaith hwn, mae'n bosibl y bydd landlordiaid mewn sefyllfa ble na allant fyth adennill meddiant ar eu heiddo.
Ni chredaf fod y cydbwysedd rhwng seiliau gorfodol a disgresiynol yn iawn, chwaith—er enghraifft, sail orfodol ar gyfer meddiant morgeisai, ond sail ddisgresiynol ar gyfer newid eiddo yn ôl i fod yn gartref teuluol. Yn ychwanegol at fy mhryderon ynghylch y seiliau newydd hyn, yr hyn sy’n anodd yn fy marn i gyda gwelliannau Delyth yw'r gofyniad i landlord ddarparu o leiaf 12 mis o rybudd. Mae Rhentu Cartrefi bob amser wedi ceisio taro'r cydbwysedd cywir rhwng sicrwydd deiliadaeth digonol i ddeiliad contract a’r gallu i landlord gymryd meddiant ar eu heiddo. Ni chredaf y gellid honni hyn pe baem yn cael gwared ar y gofyniad hwn am gyfnod rhybudd o 12 mis cyn y gallai achos adennill meddiant gychwyn. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi gwelliannau 32 a 33.
Gan droi at welliannau Laura, 46 a 51, mae gennyf bryderon difrifol iawn ynglŷn â sut y mae'r rhain yn effeithio ar sicrwydd deiliadaeth deiliad contract. Mae'r diwygiadau'n nodi nifer o seiliau gorfodol ac yn galluogi landlord i geisio meddiant gyda deufis yn unig o rybudd ar y mwyaf. Nid wyf yn cefnogi cyflwyno seiliau gorfodol newydd o fewn Bil a chanddo’r nod o gynyddu sicrwydd deiliadaeth. Ystyriwyd y defnydd o seiliau gorfodol yn ofalus iawn gan Gomisiwn y Gyfraith wrth baratoi Rhenti Cartrefi, ac maent yn parhau mewn nifer fach iawn o achosion yn unig. Sail y Bil hwn yw darparu o leiaf chwe mis o rybudd i ddeiliad contract nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le yn ystod eu meddiannaeth. Rwy'n deall y gallai fod gan landlord resymau da dros fod yn awyddus i werthu'r eiddo neu fyw ynddo eu hunain, ond nid deiliad y contract sydd ar fai, ac yn sicr, ni ddylai'r rhesymau hyn gael blaenoriaeth dros eu gallu i ddod o hyd i gartref addas arall. Byddai deufis o rybudd o dan yr amgylchiadau hyn yn cynnal y system bresennol a'r effaith ddinistriol y mae'n ei chael ar deuluoedd sy'n derbyn hysbysiadau byr o'r fath.
Yn yr un modd, mewn perthynas â gwelliant 52, nid yw deiliad contract ar fai os yw morgeisai yn dymuno ceisio meddiant, ac ni allaf dderbyn bod sail orfodol o ddeufis o rybudd yn unig yn angenrheidiol yma chwaith. Fel y dywedaf, mae'r Bil hwn yn ceisio ymestyn y cyfnod a fydd gan ddeiliad contract i ddod o hyd i gartref addas, nid ei leihau, ac am y rhesymau hyn, Lywydd, ni allaf gefnogi'r gwelliannau hyn. Diolch.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i Laura a minnau ymateb i ddeddfwriaeth gyda'n gilydd ers iddi ddod i’r rôl hon, felly rwy'n ei chroesawu iddi. Credaf fod y ddadl fer rydym newydd ei chael yn dangos bod anghydbwysedd o hyd o ran dylanwad rhwng tenantiaid a landlordiaid. Byddwn yn sicr yn cytuno â'r hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud am welliannau'r Ceidwadwyr. Rwy'n dal i feddwl bod angen inni fynd ymhellach yng Nghymru, ac am y rheswm hwnnw, byddwn yn gwthio ein gwelliannau yn y grŵp hwn i bleidlais, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ystyried yr hyn a ddywedwyd. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn gwelliant 32. A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais. Fe fyddwn ni ond yn gwneud hyn unwaith yn ystod ystyriaeth Cyfnod 3. Felly, atal y cyfarfod dros dro. Diolch.
Felly, dyma ni'n cyrraedd ein pleidlais gyntaf ni, ac rŷm ni'n pleidleisio nawr yn gyntaf ar welliant 32 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, mae wyth yn ymatal ac mae 32 yn erbyn, felly mae gwelliant 32 wedi ei wrthod.
Gwelliant 33, Delyth Jewell, ydy e'n cael ei symud?
Ydy. Thumbs up yn golygu ei fod e'n cael ei symud. Gwelliant 33, felly. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? Unrhyw un yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly gawn ni bleidlais ar welliant 33 yn enw Delyth Jewell. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 40 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.