Grŵp 5: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad (Gwelliannau 1, 2,3, 4, 11, 12, 13, 14, 15, 22, 23, 24, 28, 29, 30, 31, 8)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:49, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyn i mi alw ar Laura Jones i siarad, a gaf fi ymddiheuro i Laura Jones am beidio â’i galw yn y grŵp blaenorol o welliannau? Fy mai i yn llwyr oedd hynny a byddai wedi eich drysu. Mae’n ddrwg gennyf am hynny. Felly, os ydych yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau ar welliannau 53 a 54 o'r grŵp blaenorol fel eu bod wedi'u cofnodi, mae croeso i chi wneud hynny. Ac wrth gwrs, siaradwch am y grŵp hwn o welliannau hefyd. Ymddiheuriadau, Laura.